Cyflwyno rhaglenni celfyddydau cyfranogol ysbrydoledig sy’n newid y ffordd mae pobl yn gweld eu hunain a’r byd o’u cwmpas.
Ein nod yw darparu gweithgareddau celfyddydau cyfranogol, rhaglenni dysgu creadigol a phrofiadau cofiadwy sy’n helpu pobl o bob oed a gallu yng Nghymoedd y De Ddwyrain i ffynnu’n unigol a gyda’i gilydd.
Credwn mai defnyddio’r celfyddydau yw’r ffordd fwyaf effeithlon o wneud gwahaniaeth i ansawdd bywydau pobl – hyrwyddo llesiant, datgloi potensial ac adeiladu cymunedau cryf.
Ynghyd â darparu profiadau ysbrydoledig a difyr, dengys ein gwaith y gall rhaglenni celfyddydau cyfranogol fod yn gatalydd ar gyfer cynnydd economaidd a chymdeithasol. Drwy weithio’n agos gyda sefydliadau partner ac ymarferwyr celfyddydau proffesiynol, rydym yn dod o hyd i ddatrysiadau creadigol sy’n sicrhau newid cadarnhaol.
Rydym yn ymroddedig i gyd-gynhyrchu a chredwn y byddwn, drwy gydweithio gyda chymunedau, artistiaid, cydweithwyr mewn awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau hamdden a phartneriaid eraill, yn cyflawni ein gweledigaeth o:
Cymoedd y De Ddwyrain yn ardal o gymunedau hyderus, creadigol, iach a medrus, lle mae gan bawb fynediad cyfartal i ragoriaeth artistig drwy brofiadau celfyddydol cyfranogol.
Ymunwch â ni. Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio i gael mwy o wybodaeth am brosiectau newydd. Cliciwch yma i ymuno neu’n dilyn ar Facebook, Instagram neu Twitter.
“Fe wnaeth Celf ar y Blaen helpu i gynnau’r fflam dan ein prosiect peilot ar lythrennedd, gan roi cefnogaeth a chysylltiadau hollbwysig i ni yn union pan oeddem eu hangen. Mae ein gwaith wedi blodeuo ers hynny yn fenter gymdeithasol lawn, Petra Publishing, sy’n helpu i gefnogi dysgu fel teulu. Y llynedd fe wnaethom gyflwyno ein gwaith yng Ngŵyl y Gelli – rhywbeth na fyddwn byth yn ei anghofio.” Michelle Jones, Rhwydwaith Rhieni