Ein Stori

Wedi ei sefydlu yn Ebrill 2008, sefydliad celfyddydol cymunedol yw Celf ar y Blaen. Mae’n weithgar yn ardal ddwyreiniol blaenau’r cymoedd gan gynnwys bwrdeisdrefi sirol Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful a Thorfaen.

Mae Celf ar y Blaen yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru trwy Gyngor Celfyddydau Cymru ac yn cael ei gefnogi gan bartneriaeth o’r pedwar awdurdod lleol sy’n cymryd rhan.

Ein nod yw darparu profiadau celfyddydol ysbrydoledig o ansawdd uchel sy’n berthnasol i gymunedau lleol. Mae rhywfaint o’n gwaith yn cael ei gyflenwi trwy brosiect gyda chyfyngder amser, tra bod gweithgareddau eraill yn mynd trwy gydol y flwyddyn. I ddarganfod sut y gallwch chi gymryd rhan yn ein gweithgareddau cliciwch yma.

Spread the love

Mae Celf ar y Blaen yn cyflenwi rhaglen amrywiol o waith, yn ymestyn o redeg gweithdai galw heibio i gynnal perfformiadau rhanbarthol mawr mewn digwyddiadau blaenllaw. Mae tua 4,000 o unigolion yn cymryd rhan yn ein gweithgareddau bob blwyddyn, a hyd yma rydym wedi creu cyfleoedd cyflogaeth i 350 o weithwyr celf ar eu liwt eu hunain. I gael manylion am brosiectau blaenorol cliciwch yma.

Rydym yn credu yng ngallu’r celfyddydau i drawsnewid bywydau a symbylu newid cadarnhaol mewn cymunedau lleol. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid o amrywiaeth o sectorau, fel datblygu cymunedol, gwasanaethau ieuenctid, cyfiawnder troseddol a’r sector iechyd, gan ddefnyddio’r celfyddydau i gyflawni amrywiaeth o ganlyniadau. I gael mwy o wybodaeth am ein gwaith gyda phartneriaid cliciwch yma.