Arddangosfa mewn Blwch yn awr ar yr hewl
Ar ôl pedair blynedd o goffáu meddylgar ar y Rhyfel Byd Cyntaf, rydym wedi distyllu’r atgofion i gist deithio sy’n agor i ddatgelu cyfres o flychau cadw. Mae pob blwch yn cynnwys eitemau o’r cyfnod megis cardiau post, cofnodion gwasanaeth, pedol a chwiban.
Gall yr eitemau hyn gael eu trin a chawsant eu dewis yn ofalus i hyrwyddo dealltwriaeth ddyfnach o’r gwrthdaro. Bydd arbenigydd treftadaeth ar gael mewn cyfres o ddigwyddiadau cymunedol i roi gwybodaeth gefndir megis esboniad o’r Geiniog Marwolaeth, plac coffa efydd a anfonwyd i deuluoedd dynion a menywod a gollodd eu bywydau rhwng 1914-18.
Mae zapcodau ar rai o’r eitemau fel y gall y sawl sy’n eu trafod gael profiad aml-synhwyraidd. Drwy ddefnyddio ap ffôn syml, gall cyfranogwyr edrych ar straeon digidol am bobl o’r Cymoedd, gwrando ar gerddoriaeth o’r Rhyfel Byd Cyntaf, darllen erthyglau ar-lein a phrofi gwasanaethau cofio.
“Themâu’r blychau yw’r gwahanol fathau o ddistawrwydd,” meddai Bethan Lewis, rheolwr prosiect Celf ar y Blaen. “Mae distawrwydd fel gweithred o gofio, distawrwydd fel math o ddiogelu, distawrwydd fel canlyniad i drawma a distawrwydd anghydweld. Gobeithiwn y bydd y blychau yn ysgogi trafodaeth ac yn tanio’r dychymyg.”
Cyllidwyd y prosiect gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Cafodd eitemau a straeon eu casglu gyda chefnogaeth partneriaid treftadaeth Archifau Gwent, Archifau Morgannwg, y Tŷ Windio, Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa ac Amgueddfa Cymru.
Cynhaliwyd gweithdai dan arweiniad hanesydd gydag aelodau o’r gymuned a phlant ysgol. Maent wedi llunio gwaith creadigol a gaiff ei ddangos ar ddiwedd y prosiect ac a fydd ar gael ar-lein ar ffurf ddigidol i helpu eraill i ddysgu am ganlyniadau pellgyrhaeddol y gwrthdaro.
“Mae hyn yn wych os nad ydych chi’n gwybod neu’n deall mewn gwirionedd beth aethant drwyddo yn y rhyfel.”
“Arddangosfa sy’n gwneud i chi feddwl o ddifri.”
Sylwadau gan gyfranogwyr



