Arddangosfa mewn Blwch
Mae Celf ar y Blaen yn falch i gyhoeddi y caiff y gwaith creadigol a gynhyrchwyd gan grwpiau cymunedol a gymerodd ran yn Arddangosfa mewn Blwch ei ddangos mewn Digwyddiadau Cymunedol dros yr ychydig wythnosau nesaf.
Mae dros 300 o aelodau’r gymuned o bob rhan o ardal ddwyreiniol Blaenau’r Cymoedd wedi cyfrannu at y casgliad myfyriol hwn o waith sy’n ymchwilio thema distawrwydd mewn cysylltiad gyda’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Gan ddefnyddio Arddangosfa mewn Blwch fel ysbrydoliaeth ar gyfer eu celfwaith a gweithio wrth ochr artistiaid proffesiynol, dewisodd grwpiau cymunedol ddehongli eu canfyddiadau a chynrychioli’r themâu oedd yn taro tant drwy amrywiaeth o ddulliau celf.
Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- Theatr Adhoc sydd wedi cynhyrchu ffilm fer yn portreadu distawrwydd y rhai a gafodd eu “saethu ar doriad gwawr”, gan ymchwilio’r pwnc o wahanol safbwyntiau (cliciwch yma i edrych ar y ffilm.)
- Grwpiau ieuenctid o Hwb Blaenafon a Chlwb Ieuenctid Willows, Troedyrhiw a weithiodd gyda’r cerddor Rufus Mufsa i ysgrifennu a pherfformio barddoniaeth sy’n ymchwilio effaith rhyfel ar bob agwedd o gymdeithas. (Cliciwch yma ac yma i wrando ar y cerddi.)
- Ysgrifennodd disgyblion o Ysgol Gynradd Sofrydd lythyrau, gwneud lampau “deepa” clai a phaentio baneri batik i gynrychioli distawrwydd milwyr o wledydd eraill, gyda ffocws neilltuol ar brofiadau myfyrwyr o India yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Bydd digwyddiadau cymunedol Arddangosfa mewn Blwch yn y mannau dilynol:
Tŷ Windio, Tredegar Newydd rhwng 16-19 Ebrill
Archifdy Gwent, Glynebwy rhwng 23-30 Ebrill
Llyfrgell Ganolog Merthyr Tudful rhwng 1-9 Mai
Mae mynediad yn rhad ac am ddim, gyda’r lleoliadau ar agor yn ystod eu horiau arferol.
Cefnogir Arddangosfa mewn Blwch gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Cafodd gwrthrychau a straeon a gynhwysir yn yr arddangosfa eu casglu gyda chefnogaeth partneriaid treftadaeth Archifdy Gwent, Archifdy Morgannwg, y Tŷ Windio, Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa ac Amgueddfa Cymru.





