Awr Ddaear 2018
Daeth dros 400 o bobl ar draws ardal cymoedd y De Ddwyrain at ei gilydd mewn pedwar digwyddiad i ddathlu’r Awr Ddaear gyda Celf ar y Blaen ym mis Mawrth.
Mae’r Awr Ddaear yn ymgyrch fyd-eang gan WWF lle mae miliynau o bobl yn troi eu goleuadau i ffwrdd i godi ymwybyddiaeth o newid yn yr hinsawdd. Gan fod Cymru’n dathlu blwyddyn y môr yn 2018, canolbwyntiodd Celf ar y Blaen weithgareddau eleni ar effeithiau newid yn yr hinsawdd ar amgylchedd ein moroedd.
Cynigiodd y digwyddiadau a gynhaliwyd yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon, Canolfan Gymunedol Dowlais, Parc Penallta a’r Met Abertyleri amrywiaeth o weithgareddau cyfeillgar i’r teulu yn seiliedig ar thema amgylcheddol, megis dweud straeon a gwneud llusernau. Gwahoddwyd cyfranogwyr i wneud addewid i’r blaned – gan arwain at i gannoedd o deuluoedd ymrwymo i wneud newidiadau bach yn eu ffordd o fyw i ostwng eu heffaith ar yr amgylchedd.
Daeth pob un o’r digwyddiadau i ben gyda pherfformiadau hudolus dan olau llusern gan grwpiau lleol fel Cymdeithas Ddrama a Cherddorol Ieuenctid Abertyleri yn y Met, aelodau Clwb Tôn yn Nowlais a band gwerin Caffe Celtaidd ym Mlaenafon. Roedd y dathliadau ym Mharc Penallta yn cynnwys gorymdaith llusern gyda 40 o lusernau angenfilod môr, yn creu cefnlen ysblennydd ar gyfer y digwyddiad.
Cafodd ffilm graffeg symudiad arbennig yn defnyddio celfwaith gan blant ysgol o bob rhan o’r ardal ei lansio yn y digwyddiadau. Cafodd y ffilm ei chreu yn ystod cyfres o sesiynau allgymorth lle bu plant yn gweithio gydag artistiaid proffesiynol ac arbenigwyr amgylchedd i ddysgu am effeithiau cynnydd mewn tymheredd dŵr ar greaduriaid y môr. Mae’r ffilm yn awr ar gael i’w lawrlwytho fel llun sgrin, yn defnyddio’r ddolen ddilynol https://files.fm/u/j5qszewu
Dywedodd Kate Strudwick, Rheolwr Prosiect Creadigol Celf ar y Blaen: “Mae gweithgareddau Awr Ddaear eleni wedi’n galluogi i gysylltu gyda nifer fawr o aelodau’r gymuned, yn defnyddio’r celfyddydau i godi ymwybyddiaeth o fater amgylcheddol pwysig. Bu’n galonogol gweld cynifer o deuluoedd yn ymrwymo i wneud gwahaniaeth ar gyfer y dyfodol. Rydym wrth ein bodd gyda’r ymateb cadarnhaol i ddigwyddiadau eleni ac edrychwn ymlaen at gynllunio gweithgareddau tebyg ar gyfer 2019!
Gwnaed dathliadau Awr Ddaear Celf ar y Blaen yn bosibl drwy bartneriaethau gyda’r sefydliadau dilynol: https://we.tl/a4GbSBYoZp
Aneurin Leisure, Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful, Ymddiriedolaeth Elusennol Canmlwyddiant Stephens a George, Rhwydwaith Rhieni Merthyr Tudful, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tîm Cefn Gwlad Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Rhwydwaith Rhieni Caerffili a WWF.
Cynhyrchwyd y llun sgrin y gellir ei lawrlwytho gan Gelfyddydau Cymunedol Breaking Barriers.
Lluniau gan Mark Lewis



