Mae’r Awr Ddaear yn gynllun WWF a gynhelir ym mis Mawrth bob blwyddyn.
Y nod yw cynnwys cynifer o bobl ag sydd modd i gymryd rhan mewn newid cadarnhaol a helpu i atal newid hinsawdd.
Cynhelir yr Awr Ddaear eleni rhwng 8.30yp – 9.30yp ddydd Sadwrn 25 Mawrth.
Ar gyfer yr Awr Ddaear, caiff goleuadau eu troi i ffwrdd o amgylch y byd i ddangos ein pryder am ddyfodol y blaned (yn ogystal ag arbed trydan a gostwng ein heffaith!).
Byddwn yn cynnal dau ddigwyddiad eleni ddydd Sadwrn 25 Mawrth 2023.
Bydd ein gweithgareddau Awr Ddaear eleni yn canolbwyntio ar rywogaethau brodorol mewn perygl tebyg i’r Llyffant Twyni a Phathew Collen y mae newid hinsawdd yn effeithio arnynt.
Byddwn yn gofyn i bobl “Wneud eu Marc” ar gyfer y blaned drwy wneud newidiadau cadarnhaol mewn ffordd o fyw i helpu’r rhywogaethau hyn i ostwng eu heffaith.
Mae grwpiau ieuenctid o fwrdeistrefi sirol Blaenau Gwent a Chaerffili yn cynnwys celfweithiau a cherfluniau ar hyn o bryd a ysbrydolwyd gan rywogaethau brodorol a gaiff eu dangos o amgylch yr ardal.
Gallwch hefyd gymryd rhan yn yr Awr Ddaear drwy ymuno â ni yn y digwyddiadau dilynol:

Canolfan Treftadaeth Y Byd Blaenafon
Digwyddiad am ddim cyfeillgar i’r teulu
Ymchwiliad creadigol o newid hinsawdd yn defnyfddio crefftau, dweud straeon, cerddoriaeth, barddoniaeth a pherfformiad.
Yn adrodd straeon ym Mlaenafon fydd Louby Lou’s, Caffe Celtaidd yn perfformio a byddwn yn rhannu cerdd gan ddisgyblion o Ysgol Treftadaeth War Blaenafon.
Dydd Sadwrn 25 Mawrth
6:00yp – 8:00yp
Canolfan Treftadaeth Y Byd Blaenafon
NP4 9AS

Neuadd Sgowtiaid Aberfan a gorffen yn Cae Grove
Digwyddiad am ddim cyfeillgar i’r teulu.
Ymchwiliad creadigol o newid hinsawdd: Gwneud llusern, cymryd rhan mewn a gweithgaredd a gwrando ar straeon yng ngolau llusern.
Sarah Kilbride fydd yn adrodd straeon yn Aberfan.
Dydd Sadwrn 25 Mawrth
4:00yp – 6:00yp
Neuadd Sgowtiaid Aberfan a gorffen yn Cae Grove.
Zion Methodist Church Aberfan,
1 Cottrell Street,
CF48 4QU
Dod ā blanced!
Mae lleoedd am ddim ond mae’n hanfodol archebu drwy Eventbrite:
https://www.eventbrite.co.uk/e/earth-hour-awr-ddaear-tickets-566200409667?aff=ebdssbdestsearch
https://www.wwf.org.uk/earth-hour
