Awr Ddaear – Beth yw eich Addewid i’r Blaned?
Wrth i’r Awr Ddaear agosáu – y digwyddiad blynyddol pan gaiff goleuadau eu troi i ffwrdd ym mhob rhan o’r byd – gofynnwn i chi feddwl am un peth y gallech ei newid i helpu arafu newid hinsawdd. Gwyddom fod angen newid blaengar ar lefel llywodraethau yn fyd-eang. Ond mae hefyd bŵer yn yr ymrwymiadau dyddiol a wnaiff pob un ohonom
Yn ein gweithdai cyn yr Awr Ddaear am 8.30pm ddydd Sadwrn 30 Mawrth, rydym yn dangos pobl sut i wneud crychyddion origami. Mae oedolion a phlant yn ysgrifennu eu haddewidion ar eu crychydd papur. Anelwn gael 1,000 crychydd i’w huno gyda llinyn yn y digwyddiad llusernau ym Mharc Penallta, Ystrad Mynach am 6.45pm ar y dydd Sadwrn. Y gred draddodiadol yw y daw’ch dymuniad yn wir os byddech yn plygu 1,000 crychydd origami.
Beth fedrech chi addo ei newid? Dyma rai syniadau:
- Defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus o leiaf unwaith yr wythnos
- Newid i laeth soya, almwn neu debyg yn lle llaeth buwch
- Gwisgo siwmper yn lle troi’r gwres lan
- Arbed dŵr drwy dynnu’r tsiaen yn llai aml adre (“os yw’n felyn, gadewch iddo sefyll; os yw’n frown, tynnwch y dŵr.”)
- Peidiwch â bwyta cig o leiaf un diwrnod yr wythnos
- Cymryd wythnos o wyliau yn agos adre a theithio yno ar y trên
- Arbed dŵr drwy olchi eich dillad yn llai aml
- Plannu gardd perlysiau
- Cario eich cyllell a fforc bambw eich hunain fel nad ydych angen rhai plastig amser cinio
I gymryd rhan rhowch 30 Mawrth yn eich dyddiadur a dewch draw i’ch digwyddiad agosaf: Parc Bryn Bach, Canolfan Treftadaeth Byd Blaenafon, Parc Cyfarthfa neu Barc Penallta. Mae’r amserau a’r lleoliadau ar gael ar y wefan hon. Neu gallech wneud eich crychydd adre – cofiwch ddefnyddio papur wedi’i ailgylchu! Credwn ei fod yn weithgaredd ystyriol a therapiwtig. Edrychwch ar y fideo byr yma i weld sut i wneud yr origami.



