Bod yn Greadigol gyda Celf ar y Blaen

Ebrill 2020

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Celf ar y Blaen wedi bod yn brysur yn aildrefnu ei raglen waith i sicrhau ei fod yn parhau i gynnig gweithgareddau celf cyfranogol arloesol dan arweiniad proffesiynol y gellir eu mwynhau adre.

Mae’r rhaglen yn cynnwys pump agwedd allweddol, gyda digonedd o gyfleoedd i gymryd rhan yn ystod y cyfnod hwn o ynysu:

Hapusrwydd ar y Blaen

Mae Celf ar y Blaen yn cynnal gweithgareddau ar-lein rheolaidd, a gynhelir drwy Zoom.

Y gweithgareddau sydd ar gael ar hyn o bryd:

Caffi Celtaidd, grŵp cerddoriaeth rhyng-genhedlaeth, dyddiau Mercher 16.30 – 18.30 (bydd y 45 munud cyntaf yn canolbwyntio ar ddechreuwyr)

Sesiwn ganu gyda Ali Shone, bob dydd Iau 12.30 – 13.45

Anfonwch neges trwy gyfryngau cymdeithasol neu ebostio info@head4arts.org.uk i gael manylion am sut i ymuno.

Cadwch lygad ar ein gwefan a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gael gwybodaeth am weithgareddau eraill.

Dysgu ar y Blaen

Mae Celf ar y  Blaen yn cynnig cyfle i deuluoedd ac ysgolion  gymryd rhan ym mhrosiect Pont – prosiect llythrennedd rhyngwladol sy’n defnyddio straeon gwerin o Gymru a’r Eidal fel ffordd o gynyddu mwynhad o ddarllen a chysylltu gyda darllenwyr eraill drwy ap newydd, Betwyll – anfonwch e-bost atom i gael mwy o wybodaeth.

Yn teimlo’n greadigol? Mae Celf ar y Blaen wedi cyfuno nifer o ffilmiau celf a chrefft ar ei sianel YouTube.

Cyfleoedd ar y Blaen

Rydym wedi bod yn gweithio gydag ymarferwyr celfyddydau cyfranogol i greu cyfres o breswyl artistiaid ar-lein, yn arddango a dathlu eu gwaith a’u cyfraniadau at Gelf ar y Blaen. Eisiau dysgu mwy?! Cliciwch yma

Iechyd ar y Blaen –

Mae Celf ar y Balen wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau cymunedol gwirfoddol i gynnig profiadau creadigol o bell ar gyfer unigolion nad oes ganddynt efallai fynediad i’r rhyngrwyd, er enghraifft drwy ddarparu “pecynnau crefft” yn cynnwys deunyddiau a chyfarwyddiadau i’w cynnwys mewn cynlluniau dosbarthu o ddrws i ddrws. Darganfyddwch fwy am y cynllun yma.

Y Dyfodol ar y Blaen

Bu Celf ar y Blaen yn dathlu’r Awr Ddaear ar-lein eleni, mae ein stori Awr Ddaear a’r tiwtorial gwneud llusern yn dal i fod ar gael i’w gweld yma.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau yn cymryd rhan yn rhai o’r gweithgareddau uchod. Byddem wrth ein boddau yn gweld lluniau a fideos ohonoch yn cymryd rhan. Tagiwch ni ar gyfryngau cymdeithasol gyda #H4AMakes neu ebostiwch ni gyda’ch creadigaethau!

Spread the love