Byddwch yn Rhan o’r Newid

Earth Hour / Awr Ddaear 2020

Bydd Celf ar y Blaen yn cynnal digwyddiadau am ddim ar gyfer teuluoedd i ddathlu’r Awr Ddaear ddydd Sadwrn 28 Mawrth 2020 mewn pedwar lleoliad gwych ledled ardal ddwyreiniol Blaenau’r Cymoedd. Bydd pob digwyddiad yn cynnig ymchwiliad creadigol o newid hinsawdd yn defnyddio dweud straeon, llusernau gyda chrefftau pili pala.

Cynhelir y digwyddiadau hyn, sy’n addas ar gyfer pob oedran, ym Mharc Bryn Bach, Tredegar, Parc Cyfarthfa, Merthyr Tudful, Canolfan Treftadaeth y Byd a Llyfrgell Blaenafon a Pharc Penallta.

Mae’r Awr Ddaear yn ymgyrch fyd-eang gan y WWF pan fydd miliynau o bobl yn troi eu goleuadau bant i godi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd. Cynhelir Awr Ddaear 2020 rhwng 8.30-9.30pm ar 28 Mawrth 2020.

Nod gweithgareddau Celf ar y Blaen a gynhelir drwy gydol y dydd yw cysylltu teuluoedd gyda’r Awr Ddaear a’u hannog i droi eu goleuadau bant am un awr yn nes ymlaen gyda’r nos i ddangos y pryder a rannant am y blaned. Caiff y sawl sy’n cymryd rhan hefyd eu hymrwymo un peth y gallant ei newid i arafu newid hinsawdd.

Daw gweithgareddau’r dydd yn cyrraedd eu pen llanw mewn diweddglo mawr ym Mharc Penallta. Bydd y digwyddiad gyda’r nos yn brofiad unigryw, teithio amser a rhyngweithiol gyda llusernau ysblennydd yn rhoi sylw i anifeiliaid o bob rhan o’r byd.

Thema digwyddiadau eleni yw rhoi sylw i sut mae newid hinsawdd yn bygwth iechyd ein planed a’r bywyd gwyllt (a’r bobl) sy’n dibynnu arno. Dewiswyd pili pala fel symbol ar gyfer y digwyddiadau i gynrychioli dirywiad bioamrywiaeth ar raddfa leol a byd-eang. Ers 1976 mae pili pala a gwyfynod ymysg y rhywogaethau a welodd y gostyngiad mwyaf, gyda chwymp o 52% yn nifer cyfartalog y pili pala a adroddwyd yng Nghymru.

Dyma’r bumed flwyddyn i Celf ar y Blaen drefnu digwyddiadau ar gyfer yr Awr Ddaear. Dywedodd Kate Strudwick, Cyfarwyddwr Creadigol

“Rydym yn byw mewn byd sy’n newid a gobeithio y bydd ein digwyddiadau ar gyfer yr Awr Ddaear 2020 yn rhoi cyfle i deuluoedd i ymchwilio newid hinsawdd mewn ffordd greadigol a’u hysbrydoli i goleddu’r newidiadau ffordd o fyw y bydd yn rhaid i ni gyd eu gwneud yn y dyfodol. Yn y pen draw, mae mynd i’r afael â newid hinsawdd a diogelu’r amgylchedd yn gyfrifoldeb i bawb.”

Rhestr o ddigwyddiadau:

Awr Ddaear – Parc Bryn Bach
, Heol Merthyr, Tredegar, NP22 3AY
Dydd Sadwrn 28 Mawrth 2020
10am – 12.30pm

Awr Ddaear – Canolfan Treftadaeth Byd Blaenafon,
Heol yr Eglwys, Blaenafon, NP4 9AS
Dydd Sadwrn 28 Mawrth 2020
1 – 3pm

Awr Ddaear – Parc Cyfarthfa,
Heol Aberhonddu, Merthyr Tudful, CF47 8RE
Dydd Sadwrn 28 Mawrth 2020
3pm – 5pm

Awr Ddaear – Parc Penallta, Heol Penallta, Ystrad Mynach, CF82 7GN
Dydd Sadwrn 28 Mawrth 2020
6.45pm – 8.30pm

Cadwch lygad am wybodaeth ychwanegol drwy’r cyfryganu cymdeithasol a yr wyfan.

Spread the love