Caffi Celtaidd Merthyr

Mae'r Caffe Celtaidd yn ehangu!

Rydym yn falch i’ch hysbysu y byddwn yn rhedeg Caffe Celtaidd yn Llyfrgell Merthyr bob dydd Iau rhwng 4:30pm – 6:30pm yn dechrau 7 Chwefror. Ar gyfer y rhai nad ydynt yn gwybod, mae’r Caffe Celtaidd yn sesiwn gerddoriaeth a ddechreuodd ym Mlaenafon i gyflwyno pobl o bob oed i gerddoriaeth draddodiadol y credwn nad yw’n cael digon o sylw heddiw.

Mae’n ddigwyddiad cyfeillgar i’r teulu a chroeso i bawb ymuno. Mae’n lle gwych i gwrdd â phobl newydd, mwynhau cerddoriaeth a dishgled neis o de a thamaid o deisen!

Pryd: Dyddiau Iau 4:30 – 6:30pm

Pryd: Canolfan Hamdden Rhydycar

Dewch â’ch offeryn eich hun neu fenthyca un o’n hofferynnau ni

Croeso i ddysgwyr!

Spread the love