Celf ar y Blaen yn 10 Mlwydd Oed
Mae’n anodd credu i ni fod o gwmpas ers mis Ebrill 2008. Teimlwn hi’n fraint fawr i fod wedi gweithio ar gynifer o brosiectau gwaith gydag artistiaid a chymunedau talentog tu hwnt yn y 10 mlynedd diwethaf.
Gobeithiwn fod ein gweithgareddau yn ystod y cyfnod hwnnw wedi ysbrydoli pobl ym mhob math o ffyrdd cadarnhaol ac edrychwn ymlaen at barhau â’n gwaith yn cyflwyno a chysylltu pobl gyda’r celfyddydau yn y dyfodol.
Yn yr ychydig wythnosau diwethaf buom yn tyrchu yn ein harchifau ac yn dewis rhai o’r prosiectau cofiadwy o’r dyfodol. Cadwch lygad am negeseuon fydd yn edrych yn ôl ac yn dathlu llawer o’n prosiectau, mawr a bach.
I ddechrau, buom yn cofio am brosiect o 7 mlynedd yn ôl! Ar 21 Mai 2011 roeddem yng Nghanolfan Dewi Sant, Rhymni yn annog pobl Rhymni i ddangos fod ganddynt lais.
Rydym wrth ein bodd gyda’r mathau hyn o brosiectau oherwydd mae’n wych gweld pobl yn dod draw a rhoi cynnig arni, rhywbeth sy’n hollbwysig i ni.



