Celf ar y Blaen yn edrych am unigolion i ymuno â’i Grŵp Ymgynghorol
Mae Celf ar y Blaen yn datblygu Grŵp Ymgynghorol fydd yn helpu i lunio rhaglen a gweithgareddau’r sefydliad yn y dyfodol. Dymunwn recriwtio unigolion a all ddod ag ystod o sgiliau, diddordebau diwylliannol a safbwyntiau i’n helpu i asesu a gwella effeithlonrwydd ein gwaith yn barhaus.
Grŵp Ymgynghorol Celf ar y Blaen
Diben
- Cymryd golwg holistig ar Celf ar y Blaen i ddynodi sut y gallai’r sefydliad wella wrth hyrwyddo cydraddoldeb yn y celfyddydau a chynnig argymhellion i sicrhau newid
- Cynorthwyo Celf ar y Blaen wrth ddynodi artistiaid newydd a chefnogi talent newydd sy’n adlewyrchu amrywiaeth Cymru
- Gweithredu fel cyfaill critigol drwy asesu’r rhaglen gwaith gyfredol ac ystyried effeithlonrwydd ei gyrraedd, lefel ymgysylltu ac ansawdd artistig
- Cynnig adborth ar ddatblygu gwefan a gweithgaredd marchnata cysylltiedig Celf ar y Blaen
- Daw pob aelod â’u hangerdd, sgiliau a phrofiad unigryw eu hunain i’r grŵp, gan helpu i ymestyn yr ystod safbwyntiau a chyngor sydd ar gael i Celf ar y Blaen
Sgiliau/gwybodaeth ddefnyddiol
Dymunwn yn neilltuol recriwtio unigolion sydd â sgiliau neu wybodaeth yn un o’r meysydd dilynol:
- Y Gymraeg (yn cynnwys dysgwyr)
- Angerdd am y celfyddydau / dealltwriaeth o’r sector celfyddydau yng Nghymru
- Profiad o weithio gyda chymunedau a dan-gynrychiolir
- Arbenigedd yn un o feysydd thema cynllun busnes Celf ar y Blaen (Iechyd ar y Blaen, Hapusrwydd ar y Blaen, Dysgu ar y Blaen, Cyfleoedd ar y Blaen, Y Dyfodol ar y Blaen a Gofodau Gwyrdd ar y Blaen)
Mae mwy o wybodaeth am Celf ar y Blaen ar gael yma
Ymrwymiad
Cynefino, ynghyd â chyfarfodydd chwarterol (cyfuniad o ar-lein a wyneb i wyneb), bydd pob cyfarfod yn parhau am tua 2 awr.
Cyfnod y swydd
12 – 18 mis i ddechrau
Buddion
Mae ymuno â’r grŵp ymgynghori yn rhoi cyfle aelodau i wneud gwahaniaeth go iawn i ymarfer Celf ar y Blaen. Gobeithiwn y bydd cydweithio gyda’r grŵp hwn yn ein helpu i asesu a gwella effeithlonrwydd ein rhaglen yn barhaus.
Bwriedir i hwn fod yn grŵp gwirfoddol, fodd bynnag caiff aelodau eu had-dalu am unrhyw dreuliau sy’n gysylltiedig â chymryd rhan.
Proses Gais
Anfonwch lythyr byr neu fideo, yn Gymraeg neu Saesneg, yn amlinellu eich diddordeb mewn ymuno â’r grŵp ac yn esbonio pa sgiliau/profiad y gallech eu rhoi.
Dim hirach na 1 ochr A4 / 3 munud.
Dylid anfon ceisiadau at: bethan.lewis@head4arts.org.uk erbyn 10yb ar Dydd Llun 24 Ionawr
Am sgwrs anffurfiol am ymuno â’r Grŵp Ymgynghorol, cysylltwch â bethan.lewis@head4arts.org.uk

