Celf ar y Blaen yn helpu 1,000 o gartrefi i fod yn greadigol
Yr wythnos hon bu sefydliad celfyddydau cymunedol Celf ar y Blaen yn dathlu dosbarthu ei 1,000fed pecyn crefftau rhad ac am ddim i Rebecca Jones a’i theulu yn Fochriw.

Tra bu cymunedau Cymru yn dod i arfer â chyfyngiadau symud Covid 19, bu Celf ar y Blaen yn brysur yn gweithio gydag amrywiaeth o ddarparwyr gwasanaeth yn ceisio dod ag ychydig bach o heulwen i fywydau’r rhai sydd dan fwyaf o bwysau oherwydd y cyfyngiadau presennol drwy ddarparu pecynnau gweithgaredd creadigol i gefnogi llesiant cartrefi sydd dan straen ar hyn o bryd.
Cafodd pecynnau rhaglen Crefftau Carreg Drws eu dylunio gan artistiaid proffesiynol ac maent yn cynnwys yr holl ddeunyddiau a chyfarwyddiadau sydd eu hangen i wneud rhywbeth arbennig i helpu codi hwyliau. Maent wedi cynnwys dalwyr haul pili pala enfys sy’n taflu lliw i ystafell, angenfilod anghyffredin ac eirth yn anfon cwtshis rhithiol, anifeiliaid anwes a wnaed o sannau a chreaduriaid pompom i ddod ag ychydig o ysgafnder i fywydau ac eitemau syml gyda thema enfys yn cyfleu negeseuon gobaith. Cafodd y sawl a’u derbyniodd gyfle i ddysgu sgiliau newydd neu efallai adfer diddordeb yr oeddent wedi anghofio amdano.
Er mwyn dosbarthu’r pecynnau crefft yn ddiogel, bu Celf ar y Blaen yn gweithio gyda rhwydwaith helaeth o fudiadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol a chymdeithasau tai cymdeithasol sydd wedi ychwanegu’r pecynnau at eu dosbarthiadau drws-i-ddrws rheolaidd o fwyd, cyflenwadau meddygol a nwyddau hanfodol eraill i aelwydydd sydd wedi ynysu neu dan bwysau eraill.
Esboniodd Kate Strudwick, Cyfarwyddwr Creadigol Celf ar y Blaen:
“Mae creadigrwydd yn helpu i hyrwyddo lles meddwl cadarnhaol a bu’n hanfodol wrth helpu teuluoedd i aros yn iach, cadw mewn cysylltiad â theimlo’n gynhyrchiol yn ystod y cyfnod cloi. Mae gweithio gyda’n partneriaid wedi ein helpu i dargedu’r cartrefi sydd yn yr angen mwyaf. Mae cynlluniau celfyddydau ar-lein gwych ar gael ar hyn o bryd, ond nid yw pawb yn medru cael mynediad iddynt felly teimlem ei bod yn bwysig datblygu cynnig creadigol y gellid ei fwynhau o bell heb fod angen mynediad i’r rhyngrwyd.”
Mae’r Rhaglen Crefftau Carreg Drws yn bosibl oherwydd cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac mae hefyd wedi rhoi rhaff bywyd a groesawyd gan artistiaid cymunedol llawrydd, llawer ohonynt wedi methu ennill unrhyw arian ers cyhoeddi’r cyfnod cloi. Mae’r cynllun hwn wedi gwneud defnydd da o’u talentau creadigol, gan gefnogi llesiant pobl leol yn ogystal â darparu gwaith i artistiaid.
Roedd y teulu Jones wrth eu bodd i dderbyn y 1000 fed pecyn crefftau, yn yr achos hwn wedi’i ddosbarthu gan Cheryl Smith, sy’n gwirfoddoli gyda’r Rhwydwaith Rhieni.
“Roedd yn hyfryd gweld pa mor falch oedd y plant o’i dderbyn – fe wnaethant ymateb fel pe byddem wedi rhoi anrheg gwirioneddol arbennig iddynt”.
Croesawyd y rhaglen gan grwpiau gwirfoddol o bob rhan o’r ardal. Dywedodd Leanne Chapman, cynrychiolydd y Rhwydwaith Rieni:
“Mae’n brosiect mor gadarnhaol. Mae mor bwysig cadw mewn cysylltiad ar hyn o bryd – hefyd mae gennym esgus ardderchog i gael clonc ar garreg y drws gyda’r teuluoedd, felly mae pawb ar eu hennill.”
I gael mwy o wybodaeth am brosiect Crefftau Carreg Drws neu unrhyw weithgareddau eraill y mae Celf ar y Blaen yn eu cynnig ar hyn o bryd, ewch i www.head4arts.org.uk neu gysylltu â info@head4arts.org.uk

