Covid 19

Diweddariad

Fel canlyniad i’r argyfwng iechyd cyfredol, penderfynodd Celf ar y Blaen mai’r peth gorau er lles pawb yw ein bod yn gohirio ein holl weithgareddau allgymorth cymunedol nes rhoddir rhybudd bellach. Mae hyn hefyd yn canslo ein digwyddiadau Awr Ddaear oedd ar y gweill ar gyfer 28 Mawrth.

Nid yw hyn yn golygu nad yw Celf ar y Blaen yn gweithredu. Yn lle hynny, byddwn yn canolbwyntio ein hegni ar ailgyflunio ein rhaglen i gynnwys mwy o weithgareddau ar-lein a ffyrdd eraill o gyflenwi ein gwaith nad yw’n golygu cysylltiad wyneb-i-wyneb. Rydym eisiau canfod ffyrdd creadigol o lenwi’r dyddiau maith hynny o ymbellhau cymdeithasol / ynysu a hefyd i gefnogi’r nifer fawr o artistiaid llawrydd sy’n canfod eu hunain heb unrhyw waith ar hyn o bryd. Gofynnwn i chi ein dilyn ar Facebook a chadw llygad ar ein gwefan i gael mwy o wybodaeth.

Gallwch gysylltu â ni drwy e-bost fel arfer ac mae ein swyddfa yn dal i fod ar agor ar hyn o bryd. Rydym yn dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gallwn weithio o gartref os yw amgylchiadau yn newid.

info@head4arts.org.uk                              
01495 357815/6

kate.strudwick@head4arts.org.uk           

bethan.lewis@head4arts.org.uk              

@Head4Arts (Facebook)    @Head4arts (Twitter)

Spread the love