Croeso i’n Hintern Celfyddydau Cymunedol

Finley Neilens yw Intern Celfyddydau Cymunedol Celf ar y Blaen

Mae gennym aelod newydd i’n tîm, y hoffem gyflwyno i chi….

Finley yw Intern Celfyddydau Cymunedol newydd Celf ar y Blaen. Graddiodd e yn ddiweddar o gwrs BA Cyfathrebu Graffig Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.

Yn ystod ei radd, aeth Finley yn angerddol iawn ynglŷn â sut y gallai celf a dylunio fod yn gatalydd ar gyfer newid cymdeithasol a chael effaith gadarnhaol ar bobl.

Gyda llai na phythefnos i mewn i’w interniaeth, mae Finley eisoes yn ymwneud â llwyth o wahanol bethau, yn amrywio o ddylunio graffig a marchnata cyfryngau cymdeithasol i helpu i redeg sesiwn côr. Yn nodedig, mae’n treulio llawer o amser yn gweithio ar hyrwyddo digwyddiadau Gŵyl Cwtsh.

Mae Finley yn cyfaddef nad yw’n sicr beth sydd gan y dyfodol. Ond, mae wedi caru ei ddechrau gyda Chelf ar y Blaen, gan wneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau pobl trwy greadigrwydd.

Spread the love