Bu newidiadau mawr yn Celf ar y Blaen dros y flwyddyn ddiwethaf, ac un ohonynt yw cynnull ein tîm newydd!
Bethan Lewis yw ein Cyfarwyddwr Creadigol newydd a bu’n gweithio i Celf ar y Blaen ers ei sefydlu yn 2008. Mae Bethan yn edrych ymlaen at gael mwy o heriau yn ei swydd newydd a pharhau i weld effaith gadarnhaol prosiectau celfyddydau cymunedol. Gyda chefndir mewn drama a pherfformiad, yn ei hamser hamdden mae Bethan yn mwynhau mynd i’r theatr a darllen i gadw lan gyda’i chlwb llyfrau!
Jordan Sallis yw ein Swyddog Gwaith Maes Cymunedol. Jordan sy’n goruchwylio gwaith marchnata Celf ar y Blaen ynghyd â chefnogi ac arwain gwahanol weithdai creadigol. Dechreuodd Jordan weithio yn y sector celfyddydau cymunedol yn 2021 a bu’n awyddus i ddatblygu ei sgiliau drwy gyfleoedd hyfforddi tebyg i’r Arts Award, Cymorth Cyntaf a dysgu Cymraeg. Gan weithio fel artist yn ei hamser hamdden, mae ffocws ei hymarfer ar ffurfiau organig a’r byd naturiol!
