Cyfleoedd Ar Y Blaen

Cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus artistiaid ar bob cam o’u gyrfaoedd, gan annog amrywiaeth a hyrwyddo arfer gorau yn effeithlon mewn gosodiadau celfyddydau cymunedol cyfranogol. Gweithio gyda’n partneriaid i ddarparu rhaglenni dysgu seiliedig ar y celfyddydau i bobl o bob oed fel llwybr i addysg bellach, gwirfoddoli a chyflogaeth.

Arts Award

Mae Celf ar y Blaen wedi cofrestru fel Canolfan Hyrwyddwr Trinity ar gyfer Arts Award, ar ôl helpu 165 o bobl ifanc i ennill cyfanswm o 170 dyfarniad celf dros y pedair blynedd ddiwethaf. Mae llawer o’r bobl ifanc a enillodd yr achrediad gwerth chweil a chydnabyddedig hwn wedi eu heithrio o addysg brif ffrwd neu wedi ei chael yn anodd i sicrhau cymwysterau academaidd dwy lwybrau mwy ffurfiol. Mae Celf ar y Blaen wedi cynnig achrediad Arts Award fel rhan o’i waith mewn partneriaeth gyda chynlluniau Ysbrydoli i Gyflawni (yn fwyaf diweddar gyda’r prosiect Changing Gearz yn Nhorfaen) a gyda phrosiectau’r Gwasanaeth Ieuenctid ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae Celf ar y Blaen yn gymwys i gyflwyno Arts Award ar bob lefel o’r “Darganfod” lefel mynediad i “Aur” (cyfwerth â lefel A) ac mae ganddo hanes ardderchog o lwyddiant gyda (hyd yma) 100% o’r bobl ifanc a gynigiwyd ar gyfer safoni yn ennill eu hachrediad. Lle’n bosibl caiff cynlluniau Arts Awards eu plethu i gynlluniau prosiect ar y cam datblygu (e.e. cael eu hintegreiddio i weithdai allgymorth addysgol prosiect treftadaeth Arddangosfa mewn Blwch).

Cefnogi Artistiaid

Mae Celf ar y Blaen yn darparu dros 100 cyfle cyflogaeth i artistiaid bob blwyddyn, gan ei wneud yn un o gyflogwyr mwyaf y sector celfyddydau.

Rydym yn helpu ymarferwyr creadigol i ddatblygu gyrfaoedd cynaliadwy drwy gynnig hyfforddiant a chyfleoedd mentora, yn cynnwys lleoliadau gwaith ar gyfer myfyrwyr celf, rhaglenni gwirfoddoli ar gyfer darpar ymarferwyr celfyddydau cymunedol ac amrywiaeth o gynlluniau datblygu proffesiynol parhaus, megis hyfforddiant mewn ymarfer celf dwyieithog a galluogi 50 ymarferydd i gyflwyno Arts Awards drwy eu helpu i gael mynediad i hyfforddiant Arts Adviser.

Mae Celf ar y Blaen yn meithrin talent greadigol ac yn cynorthwyo sefydliadau celfyddydau newydd. Cynigiwn gyngor a chefnogaeth ymarferol, megis desgiau
poeth a rhannu offer.

Esboniodd Miles Warren, un o gyd-sefydlwyr pyka, sydd bellach yn gwmni technoleg creadigol llwyddiannus yn gweithio mewn addysg a’r celfyddydau, sut mae’r anogaeth gynnar yma wedi gweithio iddyn nhw:

“Bu Celf ar y Blaen yn ganolog i lwyddiant pyka. Ni fyddai ein cwmni wedi hyd yn oed gychwyn heb gefnogaeth Celf ar y Blaen. Mae Celf ar y Blaen bob amser wedi’n cefnogi lle bynnag sy’n bosibl. Mae hyn wedi lledaenu drwy’r diwydiant ac wedi cynorthwyo gyda chyflogaeth gynaliadwy llawer o artistiaid, nid yn unig o fewn ein sefydliad, ond hefyd o fewn y gymuned ehangach, fel a fynegwyd o fewn ein rhwydwaith creadigol. Mae’r diwydiant celf yn un anodd i ddechrau ynddo ac mae’r ychydig gamau cyntaf yn hanfodol. Mae Celf ar y Blaen bob amser yn canfod ffyrdd newydd i gefnogi gyrfaoedd cynnar, a dulliau i ddatblygu rhai diweddarach. Mae Celf ar y Blaen yn gonglfaen sy’n rhoi cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu creadigol a hefyd gyfleoedd ar gyfer cyflogaeth gynaliadwy o fewn eu hardal weithredu a thu hwnt”.

Petra Publishing

Mae grŵp llythrennedd rhieni bellach yn fenter gyhoeddi lwyddiannus gyda’i thraed wedi’u plannu’n gadarn yng nghymuned Caerffili.

Mae perthynas hirdymor gyda’r Rhwydwaith Rhieni yng Nghaerffili wedi helpu i fynd â mamau di-waith ar daith a ddechreuodd gyda sefydlu sesiynau ble gallent ddysgu sgiliau crefft lleol. Pwy fyddai wedi meddwl y byddent o fewn pedair blynedd yn rhedeg eu cwmni cyhoeddi cymunedol eu hunain!

Nôl yn 2014, pan gafodd Rhwydwaith Rhieni Caerffili gyfle i beilota prosiect ysgrifennu llyfr cymunedol, at Celf ar y Blaen y gwnaethant droi am gyngor.

“Roedd yn faes newydd sbon o waith i ni ac roeddem angen arweiniad’, meddai Michelle Jones, sydd wedi ei fugeilio o fod yn brosiect llythrennedd cymharol fach yn annog teuluoedd i ddarllen gyda’u plant i Petra Publishing, menter gymdeithasol lewyrchus. ‘Fe wnaeth Celf ar y Blaen ein helpu i osod y sylfeini cryf a’n gwelodd yn tyfu o nerth i nerth – pethau fel contractau a hawlfraint yn ogystal â chyflwyniadau i artistiaid a darlunwyr. Maent wedi bod yno bryd bynnag roeddem angen cyngor – mae fel cael cyfaill beirniadol wrth fy mhen-elin’.

‘Bu’r effaith ar y rhieni yn enfawr,’ meddai Michelle. ‘Ar ôl cyhoeddi’r llyfr cyntaf Petra the Penguin, cynyddodd eu hyder yn ddirfawr ac fe wnaethant benderfynu rhedeg y grŵp ysgrifennu llyfrau eu hunain. Daeth rhai yn adroddwyr stori, eraill yn mynd yn ôl i ysgolion fel gwirfoddolwyr. Aeth un ymlaen i redeg y grŵp hwnnw a hefyd sefydlu dau grŵp arall ar draws y fwrdeistref. Rwy’n cofio un rhiant yn dweud, ‘Os gallaf ysgrifennu llyfr, gallaf wneud hynny unrhyw beth.’.” Fe wnaeth hynny aros gyda fi.’

Ac nid yw hynny i ddweud dim am yr effaith ar lythrennedd a dychymyg y plant. Mae’r prosiect yn awr yn rhedeg 52 gwahanol lyfr, ac ar fin lansio ei gwmni dosbarthu ei hun.

Yn 2018, gyda chefnogaeth Celf ar y Blaen, gwnaeth Petra Publishing ymddangosiad yng Ngŵyl y Gelli. ‘Uchafbwynt prosiect na chaiff ei anghofio’, meddai Michelle. ‘Diolch i chi Celf ar y Blaen am gredu yn y prosiect ac am eich cefnogaeth bob amser.’

Spread the love