Cynnig Cymraeg

Cydnabyddiaeth gan Gomisiynydd Y Gymraeg

Mae Celf ar y Blaen yn falch iawn i gyhoeddi ei bod wedi ennill bathodyn Cynnig Cymraeg.

Mae’r symbol hwn yn arwydd o gydnabyddiaeth gan Gomisiynydd Y Gymraeg am yr ymrwymiad rydym ni wedi ddangos tuag at gynnig gwasanaethau Cymraeg.

Rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn y bathodyn hwn i ddangos ein bod yn ymrwymo i’r Gymraeg.

Un o’n prosiectau a geir cynnig Cymraeg yw Llyfrgell Bywyd.

Yn ogystal â’n prosiectau, dyma ein ymrwymiadau at y Gymraeg:

❇️ Bydd ein holl ddogfennau cyhoeddus, arwyddion a deunyddiau marchnata ar gael yn ddwyieithog a chroesewir cyfathrebiadau yn y ddwy iaith.

❇️ Bydd ein holl gyfleoedd gwaith yn cael eu hysbysebu’n ddwyieithog, gan roi pwys ar sgiliau Cymraeg.
Ein nod yw sicrhau bod ymgeiswyr â sgiliau iaith Gymraeg yn cyflwyno 25% o’r ymatebion.

❇️ Byddwn yn cefnogi pob aelod o staff i ddysgu Cymraeg ac yn darparu cyfleoedd i ddau ymarferydd o leiaf i ddysgu Cymraeg

❇️ Byddwn yn cyflawni ein gweithgareddau mewn ffyrdd sy’n annog y defnydd o Gymraeg, gan anelu at wella’r ddarpariaeth ddwyieithog 10% bob blwyddyn.

Spread the love