Dathlu’r Awr Ddaear Gartre
Er na fydd ein digwyddiadau Awr Ddaear yn mynd rhagddynt fel y bwriadwyd eleni, mae digonedd o ffyrdd yn dal i fod i nodi’r Awr Ddaear gartre a chysylltu’n ddigidol gydag eraill i rannu eich cefnogaeth i’r blaned.
Mae annog teuluoedd ac unigolion i wneud “addewid i’r blaned” yn ffocws allweddol gweithgareddau Awr Ddaear blynyddol Celf ar y Blaen – newid eich ffordd o fyw mewn ffordd fach i helpu gostwng eich effaith ar yr amgylchedd. Gallai hyn fod yn fwyta llai o gig, defnyddio llai ar eich car, cofio mynd â bagiau gyda chi pan ewch i siopa neu wrthod cyllyll a ffyrc plastig. Beth allai’ch addewid i’r blaned fod eleni?
Beth am wneud eich addewid i’r blaned yn brosiect crefft – gallech ei ddangos yn eich cartref i’ch helpu i gofio’r hyn rydych wedi ei addo. Mae rhai syniadau’n cynnwys:
· Ysgrifennu eich addewid ar adain pili pala origami (gallwch weld ein tiwtorial pili pala origami yma)
· Addurno carreg o’ch gardd gyda’ch addewid yn defnyddio paent neu farcwyr parhaol
· Rhoi eich addewid ar lusern (bydd tiwtorial ar lusernau ar gael yn fuan)
Mae’r Awr Ddaear yn ddigwyddiad blynyddol lle mae’r WWF yn annog pobl i droi eu goleuadau bant i dynnu sylw at newid hinsawdd. Eleni, cynhelir yr Awr Ddaear rhwng 8.30 – 9.30pm ddydd Sadwrn 28 Mawrth. Cadwch lygad ar ein tudalen Facebook lle byddwn yn rhoi tiwtorial ar-lein gan Cindy Ward yn dangos sut y gallwch wneud llusern syml y gellir ei defnyddio pan ymunwch ag eraill o amgylch y byd i droi eich goleuadau i ffwrdd yn ystod yr Awr Ddaear.
Byddwn hefyd yn postio stori nos gyda thema’r Awr Ddaear sy’n addas i bob oed, wedi ei hysgrifennu a’i llefaru gan Tamar Eluned Williams gyda lluniau hardd gan Andy O’Rourke. Caiff y stori, a ysbrydolwyd gan syniadau gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Bryn Bach, ei chyhoeddi am 7pm ddydd Sadwrn 28 Mawrth.
Gobeithiwn y gallwch gymryd rhan yn unrhyw un o’r gweithgareddau uchod. Oherwydd y cyfnod anodd hwn, mae mwy o angen nag erioed i ni gysylltu gyda’n gilydd ac ysbrydoli gobaith ar gyfer y dyfodol.
Byddem wrth ein bodd yn gweld lluniau o’ch celfwaith, clywed eich barn am y stori a chanfod pa addewidion a wnaethoch i’r blaned – postiwch nhw ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol os gwelwch yn dda fel y gallwn eu rhannu gyda phobl eraill.
Hoffem ddiolch i’r WWF Cymru am eu cefnogaeth barhaus wrth ariannu gweithgareddau maes Awr Ddaear Celf ar y Blaen a datblygu’r stori.

