Deall y Rhyfel Byd Cyntaf

Tachwedd 2015

Ddydd Mawrth 10 Tachwedd roedd Celf ar y Blaen yn falch i gymryd rhan mewn digwyddiad yn y Senedd ym Mae Caerdydd. Noddwyd y digwyddiad gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru ac fe’i cynlluniwyd i arddangos prosiectau a dderbyniodd gefnogaeth drwy raglen grant Y Rhyfel Byd Cyntaf Ddoe a Heddiw.

Aeth dau o bobl ifanc a gymerodd ran yn y prosiect Y Rhyfel Byd Cyntaf: Atgofion o’r Cymoedd yn Nhorfaen gyda thîm Celf ar y Blaen i’r digwyddiad i gyflwyno To My Dear Mother, ffilm animeiddiedig y gwnaethant helpu i’w chreu. Mae’r ffilm yn dweud stori milwr o Gymru a enillodd Groes Victoria am ei ddewrder.

Cafodd y bobl ifanc gyfle i rannu eu profiadau gyda nifer o westeion yn y digwyddiad, yn cynnwys derbynwyr grantiau eraill, Aelodau Cynulliad a staff Loteri’r Dreftadaeth. Yn y llun gyferbyn gwelir y bobl ifanc yn cwrdd â Syr Peter Luff (Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri) a Richard Bellamy (Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru).

Disgrifiodd Kailynn, un o’r bobl ifanc a fynychodd, y digwyddiad mewn neges blog ddiweddar gan ddweud:
“Roeddwn yn nerfus iawn mynd ar y llwyfan o flaen pobl mor bwysig … ond roedd yn deimlad mor wych pan welodd pobl eraill y ffilm a’i chanmol yn fawr. Roeddwn yn teimlo mor falch o’r hyn roeddem wedi ei gyflawni ac fe fyddwn wrth fy modd yn cymryd rhan mewn prosiect arall.”

Roedd yn bleser i dîm Celf ar y Blaen fynd gyda’r bobl ifanc i’r digwyddiad. Fe wnaethant waith gwych yn cynrychioli’r prosiect a siarad am y pethau y gwnaethant ei fwynhau amdano. Roedd y digwyddiad yn ddefnyddiol iawn gan iddo dynnu sylw at amrywiaeth o brosiectau blaengar sy’n digwydd ledled Cymru i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Hoffem ddiolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am ein gwahodd.

Y Rhyfel Byd Cyntaf: Atgofion o’r Cymoedd yw’r cyntaf mewn cyfres o brosiectau celfyddydau a threftadaeth y mae Celf ar y Blaen yn bwriadu eu cyflwyno dros yr ychydig flynyddoedd nesaf i ymchwilio hanes y Rhyfel Byd Cyntaf.

Spread the love