Dysgu Ar Y Blaen

Datblygu prosiectau arloesol sy’n hyrwyddo ymgysylltu gyda dysgu, ysgogi diddordeb yn y Gymraeg ac ymchwilio treftadaeth ddiwylliannol.

Twletteratura Caerffili

Mae gan Celf ar y Blaen bartneriaeth egnïol gyda’r arloeswyr Eidalaidd Associazione Culturale Twitteratura, gan gydweithio i gyflwyno dull darllen TwLetteratura ac ap Betwyll i Gymru, gan ddatblygu’r prosiectau cyntaf o’r math hwn yn y Deyrnas Unedig.

Mae hyn yn helpu pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau traddodiadol sy’n sylfaen i gymhwysedd darllen (megis crynhoi a dealltwriaeth) drwy ei gyfuno gyda “hwyl” rhwydweithio cymdeithasol cyfoes, lle caiff dulliau chwareus eu defnyddio i annog mwynhad o ddarllen, “sgiliau darllen dwfn” a rhannu sgyrsiau am lyfrau.

Mae ap Betwyll yn ofod diogel i blant o wahanol ysgolion ryngweithio ac ysgogi ei gilydd, gan wella eu sgiliau digidol.

Mae TwLetteratura Caerffili yn ymchwiliad blwyddyn o hyd o sut y gall Betwyll weithio mewn cyd-destun dwyieithog, gan alluogi grwpiau Blwyddyn 5 o dair ysgol gynradd Gymraeg yng Nghaerffili (Penalltau, Cwm Gwyddon a Trelyn) i gael mynediad i lyfrau cyfoes i blant yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae’r prosiect Cydweithio Creadigol yn cynnwys llawer o bartneriaid o’r diwydiannau llenyddol a chyhoeddi, yn cynnwys Llenyddiaeth Cymru, Menter Iaith Caerffili a Gwasg Gomer. Cafodd y plant eu trochi ym myd cyhoeddi ac ymarfer dwyieithog, gan weithio gyda’r awdur Dan Anthony, y cyfieithydd Ioan Kidd a’r darlunydd Huw Aaron i gyhoeddi fersiwn Cymraeg newydd o “The Bus Stop at the End of the World” (Arhosfan ym Mhen Draw’r Byd).

Mae’r prosiect yn cynnwys lansiad llyfr yn Eisteddfod yr Urdd, arddangosfa yn yr Ŵyl Dysgu Creadigol Genedlaethol a mentora cyfranogwyr eraill i ddefnyddio’r dull a’r ap. Bydd y dysgu sy’n gysylltiedig â’r prosiect Cymraeg hwn maes o law yn cynorthwyo gwledydd dwyieithog eraill wrth fynd i’r afael â heriau’n gysylltiedig â llythrennedd a dysgu mewn dwy iaith yn ogystal â rhoi cyfleoedd ar gyfer cynyddu’r defnydd o ieithoedd lleiafrifol ar-lein ac mewn cyd-destunau cymdeithasol.

Ysbrydolwyd gan Hanes!

Mae Celf ar y Blaen yn mwynhau canfod ffyrdd creadigol o gysylltu cymunedau gyda’u treftadaeth ddiwylliannol, gan annog myfyrio, ysgogi ymatebion artistig a dod â’r gorffennol yn fyw.

Mae ein prosiectau treftadaeth wedi cynnwys:

• opera gymunedol a osodwyd mewn llys brenhinol yn yr oesoedd canol cynnar (Hanes a Dirgelwch / Ynys Gwydr)
• ymchwiliad o fywydau menywod yn tyfu lan yn y Cymoedd (Menywod y Cymoedd)
• ailddyfeisiadau diddorol o straeon casgliadau amgueddfa (Amgueddfa Celwyddau)
• adlewyrchiad pedwar cam ar y Rhyfel Byd Cyntaf (Y Rhyfel Byd Cyntaf: Golwg o’r Cymoedd, Pwy ydw i’n meddwl oeddwn i?, Y Galwad Olaf, Arddangosfa mewn Blwch – gweler www.inspiredbyhistory.cymru i gael mwy o wybodaeth)

Wedi’i gyflwyno drwy arddangosfeydd, operâu a pherfformiadau gydag ystod eang o wahanol ddulliau celf, mae prosiectau Celf ar y Blaen wedi ennyn diddordeb pobl o bob oed a hyrwyddo diddordeb o’r newydd mewn safleoedd treftadaeth ac amgueddfeydd lleol.

Cymerodd dros 2,400 o bobl ran yn ein prosiectau treftadaeth dros y 10 mlynedd ddiwethaf, gan ennill 50 gwobr celf ar hyd y ffordd.

“Rwyf wedi dysgu am agwedd cyfan o hanes nad oeddwn yn gwybod amdano o’r blaen … manteisiais ar y cyfle i glywed y darlithoedd archeolegol ac ysgogwyd diddordeb newydd” Cyfranogydd yn Ynys Gwydr

“Rhoddodd y prosiect gyfle i ni ddysgu mwy am y Rhyfel Byd Cyntaf a sut mae’r archif yn gweithio” Cyfranogydd, Grŵp Crefft Thornhill – Pwy ydw i’n meddwl oeddwn I

“Roedd yn ddiddorol iawn clywed am y ceiniogau hyn a ddaeth â chymaint o dristwch a drallod i fenywod Prydain. Rwy’n teimlo fel fy mod wedi mynd yn ôl i’r cyfnod, gan ail-fyw eu bywydau drostynt.” Cyfranogydd Grŵp Ieuenctid Willows, Troedyrhiw – Arddangosfa mewn Blwch

Spread the love