CYMRYD RHAN - Merthyr Tudful

Amser Cerdd
Amser: Trydydd dydd Iau y mis (19eg Mawrth) 2yp – 3.30yp
Lleoliad: Llyfrgell Dowlais
Gwybodaeth: Mwynhewch ganu, cael paned a chwrdd â ffrindiau newydd
Grŵp Oedran: Oedolion
Cost: Am ddim

Digwyddiad Awr Ddaear
Amser: Dydd Sadwrn 28ain Mawrth 3.00yp – 5.00yp
Lleoliad: Castell a Pharc Cyfarthfa
Gwybodaeth: Ymchwiliad creadigol o newid hinsawdd yn defnyddio adrodd straeon, llusernau a chrefftau gyda thema pili pala
Grŵp Oedran: Teulu
Cost: Am ddim

Caffe Celtaidd Merthyr
Amser: Dyddiau Iau yn ystod y tymor, 4.30 – 6.30 pm
Lleoliad: Canolfan Hamdden Merthyr
Gwybodaeth: Dysgu chwarae cerddoriaeth draddodiadol mewn awyrgylch hamddenol. Dewch ag offeryn gyda chi (os oes gennych un!). Addas ar gyfer pob gallu – dim angen profiad blaenorol.
Grŵp Oedran: Oedolion a Phlant
Cost: Free