Cofrodd Pasbort Planed Awr Ddaear 2019 am ddim

Barod i ymuno â ni am Awr Ddaear 2019? Eleni mae cofrodd arbennig o’r digwyddiad: eich Pasbort Planed eich hun. Medrwch gael eich Pasbort yn unrhyw un o ddigwyddiadau Celf ar y Blaen ar ddydd Sadwrn 30 Mawrth a chael stamp arno i ddangos eich bod yn un o’r miliynau a gymerodd ran ym mhob rhan o’r byd. Mae lle i chi ysgrifennu eich haddewid bersonol i’r blaned: rhywbeth y gallwch chi ei wneud i helpu arafu newid hinsawdd.

Agorwch y Pasbort i weld map y byd. Ond mae’r darn gwirioneddol gyffrous yn digwydd pan fyddwch yn lwyddo Ap Zappar AM DDIM ar eich ffôn deallus. Yna pwyntiwch eich ffôn at y cod ar y pasbort a chewch fywluniau, cerddoriaeth, ffotograffau a llwythi o wybodaeth am wahanol rywogaethau o amgylch y byd – rhywogaethau y gallem eu colli os nad ydym yn newid ein ffordd o fyw.

Gallwch gael eich Pasbort ddydd Sadwrn 30 Mawrth yma:

10.00 – 12.00 Parc Bryn Bach, Tredegar.
Gwneud crychydd, gerddi arnofio, dweud straeon a gwneud llusernau.

12.00 – 14.00 Canolfan Treftadaeth Byd Blaenafon.
Gwneud crychydd, diet byd a bwydydd eco-gyfeillgar, dweud straeon a gwneud llusernau.

15.00 – 17.00  Parc a Chastell Cyfarthfa:
Gwneud crychydd, gwneud bwyd hwyaid, llwybr pengwyniaid, dweud straeon a gwneud llusernau.

18.45 – 20.30 Parc Penallta, Ystrad Mynach:
Gwneud crychydd, gorymdaith llusernau, cerddoriaeth fyw, dweud straeon

Yna am 8.30pm trowch y goleuadau i ffwrdd am awr.

Mae’r Awr Ddaear yn gynllun gan WWF ac mae WWF Cymru yn dweud

“Ni yw’r genhedlaeth gyntaf i wybod ein bod ni’n dinistrio’r byd a gallem fod yr olaf a all wneud unrhyw beth amdano. Gyda’n gilydd, gall pŵer ein lleisiau tanio newid.”

Spread the love