Haf y fan / pabell
Cafodd fan Celf ar y Blaen ei thrawsnewid yn ystod yr haf, gan ei galluogi i chwarae rôl ym mhrosiect Celf a Meddwl a gyflwynwn mewn partneriaeth gyda Tai Calon.
Fel rhan o’r prosiect, a dderbyniodd gyllid drwy gynllun Syniadau, Pobl a Lleoedd Cyngor Celfyddydau Cymru, addurnwyd y fan ar arddull pafiliwn hud o’r dwyrain pell ac fe’i defnyddiwyd i danio dychymyg mewn cymunedau ar draws Blaenau Gwent. Yn ei gwedd newydd defnyddiwyd y fan fel gofod celfyddydau symudol, gan gynnal amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys ysgrifennu caneuon, straeon digidol a celfyddydau gweledol.
Yn hytrach na defnyddio’r adeilad fel canolfan gweithgaredd, mae defnyddio’r fan wedi’n galluogi i gyrraedd calon cymunedau a’n galluogi i greu gofod niwtral lle mae pobl yn teimlo’n gartrefol – mewn gwirionedd bu rhai pobl yn ymlacio yn y babell gyda ni am y diwrnod cyfan!
Cafodd yr holl weithgareddau creadigol a gyflwynwyd eu cynllunio i ymgynghori gyda chymunedau am eu hardal leol, a defnyddir yr ymatebion a gesglir i fod yn sylfaen i gynlluniau gwella’r amgylchedd ar gyfer pob un o’r ardaloedd yr ymwelwyd â nhw.
Wrth ochr y gweithdai a gynhaliwyd yn y “babell fan”, roedd prosiect Celf a Meddwl hefyd yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau celfyddydau cymunedol blaengar megis ..
Peintio grisiau fel pryfociad creadigol
Cysylltu gyda’r amgylchedd naturiol drwy greu celf amgylcheddol
Casglu sylwadau ar yr ardal leol yn ein rhwyd gelfyddydol
Adhawlio gofod drwy greu oriel gymunedol
Cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth ar y prosiect yma a gweithgareddau cysylltiedig,

