Hapusrwydd Ar y Blaen

Cyflwyno gweithgareddau celfyddydau cyfranogol ansawdd uchel sy’n dod â chymunedau ynghyd i atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, unigrwydd ac arwahanrwydd – mae ein prosiectau yn cysylltu pobl a chenedlaethau, gan weithio gyda phob lefel gallu a thrwy bob dull celf.

Cafe Celtaidd

Caffi Celtaidd yn Canolfan Treftadaeth Byd Blaenafon

Mae’r Caffe Celtaidd yn darparu sesiynau cerddoriaeth draddodiadol wythnosol mewn gosodiad cyfeillgar hamddenol ac anffurfiol lle gall pobl o bob oed ddod ynghyd – un ai’n chwarae offerynnau neu ddim ond mwynhau cwmni a dishgled. Mae croeso i bawb – hyd yn oed ddechreuwyr llwyr (a gallwch fenthyca offeryn os nad oes gennych un).

Mae’r Caffe Celtaidd yn anelu i roi gofod diogel i wneud ffrindiau newydd a chyfle ar gyfer dysgu fel teulu drwy hwyl gwneud cerddoriaeth gyda’n gilydd. Rydym hefyd yn mwynhau cân a dawns ac mae gennym hanes gwych o lwyddiant wrth roi gwên ar wynebau pobl. Dewch i’n gweld yng Nghanolfan Treftadaeth Blaenafon ar ddyddiau Mercher (4.30 – 6.30pm).

“Yr unig le y gallaf ddod fel mam sengl gyda phlentyn ‘ar y sbectrwm’ a bod ni’n hunain – ac mae hynny’n iawn” (Mynychydd rheolaidd)

“Rydym yn dweud wrtho ei fod yn mynd i’r lle cerddoriaeth ac mae gwên fawr ar ei wyneb” (Gweithiwr gofal rhaglen byw â chymorth)

“Hapusrwydd, codi’r hwyliau, cyfeillgarwch a llawenydd cerddoriaeth. Does dim byd fel cerddoriaeth i godi’r enaid”

Symud Gyda’r Cenedlaethau

Mae Celf ar y Blaen ers cryn amser wedi bod yn hyrwyddo budd dod â cyfranogwyr o’r naill ben i’r sbectrwm oed ynghyd, gan arloesi cyfleoedd lle gallant fwynhau cwmni eu gilydd drwy rannu gweithgareddau mewn gofod diogel.

Datblygwyd prosiectau diweddar drwy gydweithio gyda Tai United Welsh, a gefnogir gan gynllun cyllid Gwanwyn Age Cymru. Mae hyn wedi galluogi preswylwyr mewn dau gyfleuster tai gwarchod (Llys Nant-y-Mynydd yn y Blaenau a Hafod Deg yn y Coed-duon) i gymryd rhan mewn cyfres o sesiynau cerdd a symud gyda phlant ifanc iawn gyda’u rhieni, a hwylusir gan Gina Morgan sy’n ymarferydd arbenigol ar ddawns cymunedol.

Yn ogystal â rhoi cyfle ar gyfer ymarfer addfwyn, mae’r sesiynau wedi creu naws newydd yn y lleoliadau, gan eu gwneud yn fwy croesawgar a hygyrch i’r gymuned leol a helpu i drin problem bod yn ynysig.

“Cawsom hwyl, yn rhannu chwerthin a gwenau …” (Cyfranogydd Symud gyda’r Cenedlaethau, Llys Nant-y-Mynydd)


Spread the love