Help Addysg Gartref ar gyfer Aelwydydd Dwyieithog

Project Pont

Bydd gan rieni nad ydynt yn siarad Cymraeg sy’n ei chael anodd mynd i’r afael gydag addysg gartref ar gyfer plant sy’n mynychu ysgolion Cymraeg ddiddordeb mewn clywed am adnodd newydd rhad ac am ddim a gynlluniwyd i gefnogi llythrennedd a mwynhad o ddarllen.

Caiff Prosiect Pont ei gyflwyno drwy ap a luniwyd yn arbennig ar gyfer ffonau clyfar a dyfeisiau llechen. Mae hyn yn ei gwneud yn bosibl i aelwydydd cymysg o ran iaith i gael hwyl gyda’i gilydd, yn ymchwilio straeon gwerin byr o Gymru a’r Eidal, gyda gwrachod, cewri a hyd yn oed y diafol ei hun yn ymddangos ynddynt.

Mae’r prosiect yn ganlyniad cydweithio rhwng sefydliadau diwylliannol o Gymru a’r Eidal sy’n dathlu eu treftadaeth ddwyieithog. Mae’r adnoddau hefyd ar gael mewn Eidaleg ac Occitan (iaith frodorol sy’n dal i gael ei siarad yng ngogledd yr Eidal a rhannau o Ffrainc a Sbaen).

Esboniodd Kate Strudwick, Cyfarwyddwr Creadigol sefydliad celfyddydau cymunedol Celf ar y Blaen sy’n gweithio yn ardal y Cymoedd:

“I ddechrau Ysgol y Lawnt ac Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf yng Nghaerffili oedd yn cymryd rhan yn y prosiect ac fe’i cynhaliwyd yn gynharach eleni, gydag ysgolion o’r Eidal yn ymuno yn yr hydref. Fodd bynnag, gyda’r cyfyngiadau ar symud oherwydd y Coronafeirws, ymddangosai’n syniad da i ledaenu’r prosiect fel y gall pobl ifanc eraill a theuluoedd fanteisio arno.”

Mae’r holl eiriad wedi’i gynnwys o fewn yr ap, ond mae ffyrdd eraill i gael mynediad i’r deunydd, yn cynnwys drwy berfformiadau a recordiwyd gan y chwedleuwraig Tamar Eluned Williams o Gymru.

Cefnogir y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Fondazione Cassa di Risparmio di Cuneo.

Mae manylion llawn sut i gymryd rhan ar gael drwy Celf ar y Blaen (info@head4arts.org.uk)

Spread the love