Rhaglennu prosiectau celfyddydau dychmygus sy’n gwella llesiant cymunedau ac yn cefnogi iechyd da.

Mae Celf ar y Blaen yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Gymdeithas Strôc yn cefnogi pobl y mae strôc wedi effeithio ar eu bywydau, ynghyd â’u teuluoedd a gofalwyr, drwy ddarparu sesiynau canu wythnosol rheolaidd yng Nghwmbrân.
Roedd Celf ar y Blaen yn gynnar i fabwysiadu ‘canu er iechyd’ fel ffordd o feithrin hyder a chyfeillgarwch, yn ogystal ag ar gyfer cynorthwyo adferiad lleferydd.
Cafodd y côr gydnabyddiaeth genedlaethol pan enillodd Strike a Chord gategori pwysig Dewis y Bobl yng Ngwobrau Epic 2016, ar ôl denu miloedd o bleidleisiau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig.
“Roeddwn wedi bod mewn côr am flynyddoedd lawer cyn fy strôc felly rwyf wrth fy modd yn cael cyfle i ganu eto. Nid yw fy llais yr hyn yr arferai fod ond mae’n gwella po fwyaf yr ydym yn ymarfer. Ar ôl ychydig fisoedd rwy’n awr yn ystyried ei fod yn rhan o fy adferiad ac mae’n rhywbeth newydd a chyffrous i edrych ymlaen ato gyda gweddill aelodau’r grŵp.” Goroesydd strôc a gwirfoddolwraig, Vanessa Langford
Pum Ffordd i Lesiant
Mae’r Pum Fforddi Lesiant wedi eu plethu i ethos gweithgareddau Celf ar y Blaen. P’un ai cael gwared ag iselder drwy hwyl clinig ukulele, y wefr gorfforol o ymarfer ar y Gamelan Diwydiannol neu gael gwared â straen drwy ymwybyddiaeth ofalgar origami, ein nod yw cymryd ymagwedd greadigol at helpu pobl i sylwi, cysylltu, dal ati i ddysgu, bod yn egnïol ac i roi.