Llwybr Stori Llyfrgell Bywyd 2022
Mae Celf ar y Blaen yn dathlu’r Awr Ddaear eleni drwy lansio pedwar llwybr stori hudolus ar draws ardal y Cymoedd yn Ne Ddwyrain Cymru.
Gall teuluoedd a phobl o bob oed fwynhau cerdded yn yr awyr agored tra’n gwrando ar “Llyfrgell Bywyd” a ysgrifennwyd ac a lefarir gan Tamar Eluned Williams. Gellir dewis gwrando ar y stori yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Caiff pob pennod o’r stori ei hagor drwy sganio codau QR gyda ffôn clyfar. Bydd heriau hwyliog ar gael ar hyd y ffordd i gadw’r rhai bach yn brysur, tebyg i dynnu ffotograffau a gweld bywyd gwyllt lleol.
Er yn seiliedig ar yr un stori, bydd gan y llwybrau ym Mharc Cwm Darran, Parc Cyfarthfa, Llynnoedd y Garn a Pharc Bryn Bach flas lleol i roi sylw i amgylchedd naturiol godidog pob lleoliad.
Bydd llwybrau stori “Llyfrgell Bywyd” ar gael o 26 Mawrth i gyfateb gyda’r Awr Ddaear 2022. Dan arweiniad y WWF, yr Awr Ddaear yw mudiad amgylcheddol mwyaf y byd ar gyfer y blaned a nodweddir gan filiynnau o bobl yn troi eu goleuadau i ffwrdd am awr rhwng 8.30 a 9.30pm.
Esboniodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Creadigol Cynorthwyol Celf ar y Blaen: “Mae’r parciau hyn yn fannau perffaith ar gyfer stori sy’n ymchwilio ein perthynas gyda natur a phwysigrwydd gofalu am y blaned. Gobeithiwn y bydd y llwybrau yn annog pobl i sylwi ar yr amgylchedd lleol ac yn eu hysbrydoli i gymryd camau gweithredu cadarnhaol i helpu gofalu amdano”.
Bydd y llwybrau ar gael am fis, gan roi digonedd o gyfle i gymryd rhan dros wyliau’r Pasg. Bydd diwrnod arbennig gyda gweithgareddau ychwanegol wedi’u trefnu ym mhob parc. Bydd y rhain yn cynnwys cyfle i ymweld â fan symudol llyfrgell bywyd a mwynhau gweithgareddau crefft am ddim. Fe’u cynhelir ar y dyddiadau dilynol:
Parc Cwm Darran 10 am – 4pm dydd Sadwrn 26 Mawrth
Parc Cyfarthfa 10am – 4pm dydd Sul 3 Ebrill
Parc Bryn Bach 10am-4pm dydd Gwener 22 Ebrill
Llynnoedd y Garn – TBC
I gael gwybodaeth am Lwybrau Stori Llyfrgell Bywyd cliciwch yma

