Llwyddiant ysgubol sesiynau blasu Ukulele

Haf 2015

Yn 2013 bu Celf ar y Blaen yn gweithio mewn partneriaeth gyda Cymunedau yn Gyntaf Ebwy Fach i gynnig cyfres o sesiynau blasu ukulele fel rhan o’r rhaglen Dewislen Bywyd. Oherwydd poblogrwydd y gweithgaredd, mae’r sesiynau wedi parhau ac mae 15 aelod o’r gymuned yn eu mynychu bob wythnos.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda help y tiwtoriaid Brian a Lynsey, gallodd y cyfranogwyr fireinio eu sgiliau cerddorol ac maent wedi datblygu’r hyder i berfformio fel grŵp. Mae’r sesiynau hefyd yn rhoi cyfle gwych i aelodau gwrdd gyda phobl o’r un anian, datblygu rhwydwaith cefnogi ac, yn bwysicaf oll, gael hwyl.

Mae’r uchafbwyntiau ar gyfer y grŵp hyd yma wedi cynnwys recordio CD a pherfformio mewn nifer o ddigwyddiadau cymunedol. Maent hyd yn oed wedi cymryd rhan yn eu rhaglen ddogfennol fer eu hunain – cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth.

Yn dilyn saib haeddiannol iawn dros yr haf, bydd y grŵp yn ailgynnull ym mis Medi ac maent yn edrych ymlaen at eu her gerddorol nesaf.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r grŵp neu gael fwy o wybodaeth, cysylltwch â’n partneriaid Cymunedau yn Gyntaf ar 01495 291765.

Spread the love