Llyfrgell Bywyd – ar gael i’w brynu

Llyfrgell Bywyd - Llyfr hyfryd newydd i blant gan Celf ar y Blaen

Fel rhan o’i thema Mis Gwyrdd, mae sefydliad celfyddydau cymunedol Celf ar y Blaen yn cyhoeddi llyfr newydd ar gyfer plant, a ysgrifennwyd gan y chwedleuwr/awdur Tamar Eluned Williams gyda darluniau hardd gan Andy O’Rourke. Mae’r stori ar thema amgylcheddol yn fordaith o ddarganfod am hinsawdd a natur a dyfodol ein planed.

Ochr yn ochr â’r llyfr ei hun, crëwyd fideo animeiddiedig arbennig yn cynnwys naratif gan Naturiaethwr Cymreig, Cadwraethwr a Chyflwynydd Teledu, recordiodd Iolo Williams ar gyfer Earth Hour 2021 fel rhan o gydweithrediad cymunedol â WWF Cymru.

Ar ben draw’r enfys, mae un ferch fach yn gofalu am Lyfrgell anarferol iawn. Ei gwaith hi yw cadw golwg ar y llyfrau gwerthfawr sy’n cadw cydbwysedd y byd. Dyma stori’r hyn sy’n digwydd pan mae’n sylwi yr ymddengys fod y llyfrgell yn newid – mae llyfrau yn diflannu ac adrannau yn crebachu … i gyd heblaw un. Mae rhywbeth ofnadwy yn digwydd i’r llyfrgell, gan ymyrryd ar y cydbwysedd ac mae angen iddi ganfod help.

Dywedodd Kate Strudwick, y Cyfarwyddwr Creadigol: “Roeddem eisiau i’r cyfnod clo gynhyrchu rhywbeth y byddai rhieni ac athrawon yn mwynhau ei rannu gyda’u plant ac y gellid ei ddefnyddio i ysgogi sgyrsiau am yr heriau amgylcheddol sy’n ein hwynebu heddiw. Mae’n eu helpu i ddeall ein perthynas gyda natur a sut mae gofalu am y blaned yn ein helpu ninnau hefyd.”

Ar ôl datblygu’r stori, gallodd Celf ar y Blaen weithio gyda Petra Publishing i’w argraffu, diolch i gyfraniad gan Gronfa Eco DPD. Mae Llyfrgell Bywyd yn awr ar gael i’w brynu am £6.99 (ynghyd â chost postio) o wefan Celf ar y Blaen: http://head4arts.org.uk/llyfrgell-bywyd/

Mae hefyd becyn addysg y gellir ei lawrlwytho am ddim, sy’n rhoi llawer o syniadau ar sut y gellir defnyddio themâu’r llyfr i gefnogi dysgu am fioamrywiaeth a newid hinsawdd, a sut y gallwn drwy gydweithio edrych ymlaen at ddyfodol gwell. I gael mwy o wybodaeth am adnoddau addysgol a chyfleoedd hyfforddiant Celf ar y Blaen cysylltwch â info@head4arts.org.uk

Spread the love