Llyfrgell Bywyd – Pecyn athrawon, hyfforddiant a llyfr am ddim ar gael

Cynhelir hyfforddiant i athrawon am 4yp ar ddydd Llun 10fed Mai.

Ar ben draw’r enfys, mae un ferch fach yn gofalu am Lyfrgell anarferol iawn. Ei gwaith hi yw cadw golwg ar y llyfrau gwerthfawr sy’n cadw cydbwysedd y byd. Dyma stori’r hyn sy’n digwydd pan mae’n sylwi yr ymddengys fod y llyfrgell yn newid – mae llyfrau yn diflannu ac adrannau yn crebachu … i gyd heblaw un. Mae rhywbeth ofnadwy yn digwydd i’r llyfrgell, gan ymyrryd ar y cydbwysedd ac mae angen iddi ganfod help.

Mae’r Llyfrgell Bywyd yn adnodd dwyieithog newydd ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 a gafodd ei greu gan Celf ar y Blaen, sefydliad celfyddydau cymunedol yn ardal Blaenau’r Cymoedd, i hyrwyddo trafodaeth am bynciau colli bioamrywiaeth a newid hinsawdd.

Wedi’i ysgrifennu gan Tamar Eluned Williams a lluniau gan Andy O’Rourke, mae copi o’r llyfr a’r pecyn adnoddau addysg cysylltiedig ar gael i bob ysgol sy’n mynychu sesiwn hyfforddiant ar-lein ar ôl ysgol am ddim (1 awr). Mae mwy o gopïau o’r llyfr gan Celf ar y Blaen ar gael am £6.99 (ynghyd â chost postio) gyda gostyngiadau ar gyfer archebion lluosog.

Cynhelir yr hyfforddiant am 4yp ar ddydd Llun 10fed Mai.  Cysylltwch â Chelf ar y Blaen am ddolen zoom info@head4arts.org.uk  

Bydd y sawl sy’n mynychu yn derbyn llyfr am ddim a dolen i’r pecyn adnoddau, ynghyd ag opsiwn i brynu mwy o gopïau ar gyfer eu hysgol.

Mae’r pecyn adnoddau y gellir ei lawrlwytho yn rhoi llawer o syniadau ar gyfer gwaith dosbarth yn defnyddio themâu’r llyfr gan integreiddio rhifedd, llythrennedd, gwyddoniaeth a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu, dyniaethau, celfyddydau mynegiannol, iechyd a llesiant yn ogystal â dysgu awyr agored.

Yn ogystal â’r meysydd craidd hyn, cewch ofod i ehangu ar y themâu ar gyfer ymchwiliad dyfnach o faterion amgylcheddol. Bydd yn dangos sut ein bod yn dal i fod ag amser i wneud gwahaniaeth, y gall pob un ohonom wneud cyfraniad sylweddol i unioni’r fantol ac y gallwn, drwy gydweithio, edrych ymlaen at ddyfodol gwell.

Fel bonws ychwanegol, mae’r llyfr hefyd yn cynnwys elfen ddigidol – gyda dolenni realiti estynedig wedi’u mewnblannu i fwy o wybodaeth am sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar rhywogaethau sydd mewn perygl o amgylch y byd, ac i recordiad o’r awdur yn darllen y stori.

Am ragor o fanylion, cysylltwch: info@head4arts.org.uk

Spread the love
Front cover Library of Life Welsh version