Man Engine Cymru

Taith Cymru y Cawr Mecanyddol

Ymwelodd y wyrth beirianyddol enfawr, sy’n edrych yn debyg i gawr o löwr, â saith o leoliadau treftadaeth ddiwydiannol pwysicaf Cymru am wythnos o ddathliadau rhwng 8-12 Ebrill 2018 fel rhan o daith “Man Engine Cymru: dathlu diwydiant”.

Wedi’i gynllunio i ddathlu treftadaeth glofaol cyfoethog de Cymru, roedd pob stop ar daith Man Engine Cymru yn cynnig golygfeydd pwrpasol, o berfformadiau theatrig gafaelgar a chanu corawl, i straeon traddodiadol Cymreig a hyd yn oed sioe tân gyffrous.

Roedd y daith o Gymru yn brosiect ar y cyd gan y sector diwylliannol yng Nghymru gyda Phrifysgol Abertawe yn gweithio mewn partneriaeth gyda Cadw – gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, Amgueddfa Cymru, pedwar awdurdod lleol (Torfaen, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe), Celf ar y Blaen a Golden Tree Productions.

Wedi’i animeiddio gan dîm o fwy na deuddeg o ‘lowyr’, dechreuodd y pyped enfawr ar ei daith fawr o Gymru. Roedd y daith yn adrodd hanes y Chwyldro Diwydiannol lunio Cymru ac yn ei dro sut y lluniodd Cymru y byd – o arloesedd technolegol a ffurfiwyd drwy gysylltiadau masnachu byd-eang a phartneriaethau diwydiannol, i brofiadau ac ymdrechion gwerin Cymru a arweiniodd at arloesedd cenedlaethol, diwygio gwleidyddol a geni’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Fel symbol enfawr o’r diwydiant glo byd-eang a llysgennad newydd ar gyfer treftadaeth glofaol Cymru, cyfarfu’r Man Engine â chymeriadau hanesyddol allweddol drwy feysydd glo De Cymru yn dathlu llwyddiannau ac yn cofio am aberthau gorffennol diwydiannol Cymru.

Spread the love