Ocsitan

Ocsitan yw’r enw sydd yn cael ei rhoi i grŵp o dafodieithoedd sydd yn ffurfio iaith sydd yn cael ei siarad gan 1.5 miliwn o bobl yn yr ardal hanesyddol o Occitania (De Ffrainc, gogledd ddwyrain Sbaen a gogledd orllewin yr Eidal). Mae ein partneriaid Prosiect Pont (Espaci Occitan) yn dod o Dronero, yn y cymoedd Occitan o Piedmont, yr Eidal.

Roedd Ocsitan arfer bod yn iaith boblogaidd iawn yn amseroedd conoloesol, cyn cael ei ddisodli yn Ffrainc gan y Normaniaid Ffrengig.

Mae’n cymryd ei enw o’r ffordd o ddweud ydy/ie (“Oc” yn hytrach na “Oui”) Dyma pam mae hefyd yn cael ei nabod fel Langue d’Oc (Fel yr ardal Languedoc yn Ffrainc)

Roedd Ocsitaneg yn cael ei ddefnyddio yn aml yng nghwrt brenhinol Lloegr, roedd e’n iaith gyntaf Brenin Richard Lionheart a’i brawd Brenin John wedi ei ddysgu gan ei fam Eleanor o Aquitaine a death o ardal lle siaradwyd Ocsitaneg.

Yn ddiweddar mae atgyfodiad o’r niferoedd o bobl yn dysgu Ocsitan, yn debyg i’r cynnydd o’r dysgu Cymraeg sydd yn digwydd yma yng Nghymru.

Beth yw Ocsitan yn swnio fel? Clicio yma i ffeindio allan!

Siwmae – Chau
Bore da – Bònjorn
Noswaith dda – Bòna sera
Nos da – Bòna nuech
Hwyl fawr – A reveire
Gwelai di cyn bo hir – Nos veièm fito
Gwelai di wedyn – Nos veièm après
Croeso – Benvengut
Braf i dy weld di – Plaser
Sut wyt ti? – Coma te pòrtes?
Iawn diolch – Ben, gracias
Gweddol – Parelh e paralh
Sal – Mal
Beth yw dy enw di? – Coma te chames?
Fy enw i yw – Me chamo…
Faint yw dy oedran di? – Que tanti ans as?
Dw i 9 mlwydd oed – Ai 9 ans
Dw i’n byw yng Nghaerdydd – Isto a Cardiff
Dw i’n byw yn yr Eidal – Veno d l’Italia
Dw i’n siarad Occitaneg – Iu parlo Occitan
Dw i ddim yn siarad Cymraeg – Iu parlo pas Galés
Ble wyt ti’n byw? – Ente istes?
O ble wyt ti’n dod? – D’ente arribes?
Diolch – Gracias
Ie – Òc
Nage – No
Am Lwc – Bonaur!
Faint o’r gloch yw hi? – Qu ora es?
Mae’n 3 o’r gloch – L’es 3 bòts
Spread the love