Gwahanol fath o bantomeim? O ydi mae e!
Yn wynebu cau’r theatr dros dro a chanslo ei bantomeim blynyddol, trodd Sefydliad Glowyr Coed Duon at sefydliad celfyddydau cymunedol, Celf ar y Blaen i feddwl am ddatrysiad blaengar – Pecyn Panto DIY, a gynigwyd i rai teuluoedd lleol a gollodd eu gwledd Nadolig arferol yn 2020.

Byth ers y cyfnod clo, bu Celf ar y Blaen yn brysur yn gweithio gyda thîm o artistiaid llawrydd i ddarparu bron 3,000 o becynnau crefft carreg drws i gefnogi teuluoedd oedd yn cael y cyfnod clo yn anodd. Ar gyfer yr her ddiweddaraf fe wnaethant gomisiynu’r artist Cindy Ward i gynllunio pecyn yn cynnwys popeth sydd ei angen i adeiladu mini theatr, gyda chast o gymeriadau pantomeim poblogaidd a deunyddiau ar gyfer gwisgoedd.
Dywedodd Kate Strudwick, Cyfarwyddwr Creadigol Celf ar y Blaen: “Ein nod yw ysbrydoli pobl i fod yn wirioneddol greadigol wrth ysgrifennu a pherfformio eu pantomeim eu hunain. Gobeithiwn y bydd gwisgo lan, jôcs sâl a digonedd o hwyl yr ŵyl i’r holl deulu, felly bydd yn gydnaws gydag ysbryd panto – hyd yn oed os nad oedd modd iddynt fynychu un y llynedd.”
Meddai Marina Newth, Rheolwr Gwasanaethau Theatr a Chelfyddydau Cyngor Caerffili: “Mae hyn yn enghraifft wych o brosiect partneriaeth, gan gydweithio i ganfod ffordd ddyfeisgar i arddangos ein hymrwymiad i gysylltu gyda chymunedau yn ystod y cyfnod anodd hwn. Rydym i gyd yn edrych ymlaen at agor ein drysau i’r cyhoedd eto eleni a gobeithio y byddwn yn ôl gyda panto llawn yn 2021.”
Caiff rhifyn cyfyngedig Pecynnau Panto DIY eu dosbarthu i gartrefi lwcus yn y Bwrdeistref Sirol drwy Rwydwaith Rieni Caerffili; bydd gwobr o docyn teulu i’r panto byw nesaf ar gyfer y fideo gorau a gawn o berfformiad cartref.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â: info@head4arts.org.uk

