Plygwch grychydd papur i ddangos eich cefnogaeth i blaned iach

Awr Ddaear

Yn Japan, mae’r crychydd yn greadur cyfriniol a chredir ei fod yn byw am fil o flynyddoedd. Fel canlyniad, yn niwylliant Japan, Tseina a Korea, mae’r crychydd yn cynrychioli lwc dda a hirhoedledd.
Mae llawer o bobl Japaneaidd yn gwneud crychydd origami. Mae’r gair Japaneaidd ‘origami’ yn gyfuniad o ddau air Japaneaidd: ‘ori’ sy’n golygu ‘plygu’ a ‘kami’ sy’n golygu ‘papur’. Credir i origami Japaneaidd ddechrau yn y 6ed ganrif ac oherwydd fod papur mor ddrud, dim ond ar gyfer dibenion seremonïol crefyddol y defnyddid origami.

Yn draddodiadol, credid pe byddai rhywun yn plygu 1,000 crychydd origami, y byddai eich dymuniad yn dod yn wir. Daeth hefyd yn arwydd o obaith a iachau mewn cyfnod anodd. Fel canlyniad, daeth yn boblogaidd i blygu 1,000 crychydd (a elwir yn ‘senbazuru’ yn y Japanaeg). Caiff y crychyddion eu clymu gyda’i gilydd ar linyn a’u rhoi fel anrhegion.

Mae’r Awr Ddaear yn weithgaredd bydeang a dymunai Celf ar y Blaen wneud rhywbeth sy’n adlewyrchu’r cysylltiad gyda gweddill y byd. Drwy ymuno yn yr Awr Ddaear, gobeithiwn y bydd yn helpu lwc dda a hirhoedledd y blaned.

Mae troi goleuadau i ffwrdd am awr yn weithred symbolaidd i ddangos ein consyrn am newid yn yr hinsawdd. Bydd Celf ar y Blaen yn gofyn i bobl fynd gam ymhellach i wneud ymrwymiad personol i newid un peth a fedrai helpu i ostwng newid hinsawdd. Gofynnwn i bobl ysgrifennu’r ymrwymiad hwnnw ar bob crygydd a blygant.

I gymryd rhan, rhowch 30 Mawrth yn eich dyddiadur a dod i’r digwyddiad agosaf atoch: Parc Bryn Bach, Canolfan Treftadaeth Byd Blaenafon, Parc Cyfarthfa neu Barc Penallta. Dangosir yr amserau a’r lleoliadau ar y wefan yma. Neu gallech wneud crychydd adre – papur wedi’i ailgylchu’n unig! Edrychwch ar y fideoi byr yma i weld sut y gwneir yr origami.

Gyda diolch i Ganolfan Ddiwylliannaol Japanaeaidd Canada am wybodaeth ar y crychydd.

Spread the love