Crochan a Ffwrnes – ELFENNOL
Yn 2009 cafodd Celf ar y Blaen ei herio i ddatblygu prosiect Crochan a Ffwrnais yng ngwaith haearn Blaenafon fel rhan o ddathliadau Cymru ar gyfer yr Olympiad Diwylliannol. Ar ôl pedair blynedd o waith allgymorth a datblygu, daeth y prosiect i ben gyda pherfformiad graddfa fawr ar un safle, o’r enw Elfennol, a berfformiwyd ar 28 a 29 Mehefin 2012.
Yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gwaith oedd tirlun diwydiannol Blaenafon. Dechreuwyd trwy greu Gamelan Diwydiannol Blaenafon, set o offerynnau wedi eu gwneud o haearn a dur a gasglwyd yn lleol. Arweiniodd y daith wedyn at ddatblygu ap cerddorol FEED, sy’n defnyddio meddalwedd digidol i adlewyrchu’r arloesedd technegol sy’n dal i ddigwydd ym Mlaenafon heddiw.
Yn y gerddoriaeth a gyfansoddwyd ar gyfer Elemental gan Helen Woods, fe welwyd uno gwahanol gyfnodau amser a thraddodiadau mewn cyfuniad cyffrous o gamelans Java a diwydiannol, côr plant, bandiau pres, band Celtaidd, seinluniau digidol, a’r peiroffon tanllyd rhyfeddol.
Yn ystod y perfformiad roedd y sgôr gerddorol anhygoel hon yn gyfeiliant i ddawns gyfoes hudol a pherfformiadau theatraidd cyfareddol er mwyn creu profiad artistig unigryw.
Sylw cyfranogwr:
“Roedd e’n anhygoel ac fe fydda i’n ei gofio fe am weddill fy mywyd.”
Mae Crochan a Ffwrnais yn bartneriaeth rhwng Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae’n rhan o brosiect Cymru gyfan – Grym y Fflam, sydd wedi cael ei ariannu gan Ymddiriedolaeth Ysbrydoliaeth y DU, gan greu argraff barhaol ar Gemau Olympaidd Llundain 2012 a’r Gemau Paralympaidd i ariannu syniadau a thalent leol i ysbrydoli creadigrwydd ledled y DU.
Cliciwch yma am mwy lluniau.

