Gwnaed â Llaw

Haf 2012

Cafodd menywod o Cwm fynd ar daith a gychwynnodd gyda gweithdai tecstilau anffurfiol a diweddu trwy gymryd rhan mewn perfformiad aml-gyfryngol anarferol mewn corff awyren!

Gweithiodd yr artist tecstilau Miranda Thomson gyda’r grŵp i greu darn celf hardd i’w hongian ar wal, seiliedig ar fywyd coeden. Wedyn defnyddiodd cyfarwyddwr artistig y prosiect, Joanna Young, eu symudiadau llaw a straeon fel ysbrydoliaeth ar gyfer darn dawns a ffilm, gan weithio gyda’r gwneuthurwr ffilmiau Simon Clode a’r cyfansoddwr James Williams.

Yn gynnar yng Ngorffennaf perfformiwyd dawns gan Belinda Neave a Joanna Young gyda’r ffilm a cherddoriaeth yn defnyddio lleisiau a straeon y grŵp fel rhan o’r perfformiad. Digwyddodd hyn i gyd y tu mewn i awyren DC-9 ar gyfer digwyddiad Olympiad Diwylliannol Adain Avion ar safle Y Gweithfeydd yng Nglynebwy, gyda’r darn celf grog yn cael ei ddangos yn y swyddfeydd cyffredinol.

Cefnogwyd y prosiect hwn gan Sefydliad Paul Hamlyn fel rhan o raglen ArtWorks sy’n archwilio ansawdd mewn celfyddydau cyfranogol (i wybod mwy am hyn ewch i dudalen ArtWorks ar y dudalen hon).

I gael mwy o wybodaeth am Adain Avion, ei guradur Marc Rees a’r digwyddiadau Olympiad Diwylliannol ‘Artistiaid ar y Blaen’ dilynwch y ddolen yma: www.adainavion.org

Cliciwch yma am mwy lluniau.