Merch y Cymoedd

Mawrth 2009

Cymerodd mwy na 1,000 o aelodau’r gymuned ran yn y prosiect Merch y Cymoedd Girl i greu drama gymunedol ddwyieithog a gafodd ei llwyfannu mewn pedwar lleoliad ar draws ardal Celf ar y Blaen.

Roedd pob perfformiad yn defnyddio drama, dawns, cerddoriaeth a chyfryngau digidol i gynrychioli bywyd “Merch y Cymoedd”. Roedd pob stori a bortreadwyd yn y perfformiadau wedi eu creu yn y sesiynau allgymorth a gynhaliwyd mewn cymunedau lleol.

Daeth y prosiect â phobl at ei gilydd o gefndiroedd a grwpiau oedran amrywiol, gyda gweithdai ac ymarferion yn cael eu cynnal mewn ysgolion a chlybiau ieuenctid, grwpiau iaith Gymraeg, llyfrgelloedd, grwpiau mam a phlentyn, grwpiau gwnïo a chanolfan ddydd ar gyfer pobl gydag anableddau lluosog.

Sylw cyfranogwr:
“Fe roddodd Merch y Cymoedd gyfle i mi ryngweithio gyda phobl ifanc sydd â diddordeb yn y celfyddydau – fel menyw 80 oed mae’n hyfryd cwrdd â phobl ifanc gyda’r un diddordeb â fi.”

Cliciwch yma am mwy lluniau.