NEW.i.D
Ar 29 Gorffennaf 2010 cafodd llwyfan Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglynebwy ei drawsnewid yn isfyd hudol llawn o greiriau’r gorffennol yn cael ei reoli gan giwed o dylwyth teg direidus. Digwyddodd y gweddnewidiad hwn i wneud lle i NEW.i.D, drama gymunedol ddwyieithog a berfformiwyd ar un noson yn unig.
Y symbyliad i NEW.i.D oedd creu perfformiad a allai roi rhan i gymaint phosib o bobl – yn enwedig rhai oedd yn hollol newydd i’r celfyddydau a rhai nad oedden nhw erioed wedi ymweld na pherfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol o’r blaen. Cymerodd bron i 2,000 o bobl o ardal dwyrain Blaenau’r Cymoedd ran yn y perfformiad aml-gelfyddydol hwn.
Dechreuodd y prosiect gyda chyfnod ymchwil 6 mis o’r enw Fflach/Flash lle’r oedd straeon a syniadau’n cael eu casglu gan 70 o wahanol grwpiau cymunedol, pob un yn cael eu bwydo i’r cynhyrchiad mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.
Sylw cyfranogwr:
Roedd yn brofiad ffantastig perfformio’r sioe yma ac fe ddysgais i damed o Gymraeg wrth weithio gyda siaradwyr Cymraeg. Diolch i chi am y cyfle x
Cliciwch yma am mwy lluniau.

