Ynys Gwydr / Hanes a Dirgelwch

Haf 2012 – Ebrill 2013

Efallai fod Merthyr Tudful yn enwog am ei gorffennol diwydiannol ond canolbwyntio ar oes wahanol wnaeth y prosiect hwn – gorffennol canoloesol cynnar yr ardal. Gyda chymorth ein partneriaid Amgueddfa Cymru, Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd a Theatr Soar, roedd modd i’r cyfranogwyr archwilio safleoedd hanesyddol ac arteffactau rhyfeddol cyn mynd ati i ddyfeisio’u hopera cymunedol eu hunain yn seiliedig ar y straeon oedden nhw wedi eu datgelu.

Cymerodd mwy na 500 o unigolion ran yn y prosiect hwn a gynhaliwyd mewn dau gyfnod:

Hanes a Dirgelwch
Yn cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, roedd Hanes a Dirgelwch yn archwilio hanes yn ardal gan gynnwys dinistrio llys brenhinol Brenhinoedd Brycheiniog, a adeiladwyd yn y ddegfed ganrif ar ynys neu grannog a godwyd yn Llyn Llangors. Daeth Hanes a Dirgelwch â bywyd i’r stori yma, nad oedd llawer yn gwybod amdani, trwy gyfres o deithiau maes, amgueddfa tu ôl i’r llwyfan ag amgueddfeydd, a gweithgareddau celf creadigol. Penllanw Hanes a Dirgelwch oedd arddangosfa o’r enw Darnau oedd yn llwyfannu gwaith a grëwyd gan aelodau’r gymuned trwy gydol y prosiect.

Cliciwch yma am lluniau.

Ynys Gwydr
Yn cael ei ariannu gan Loteri’r Celfyddydau, ail gyfnod y prosiect oedd creu opera gymunedol seiliedig ar y straeon a gasglwyd yn ystod Hanes a Dirgelwch. Ysgrifennwyd yr opera mewn arddull “pasticcio”, gyda’r geiriau a ysgrifennwyd gan aelodau’r gymuned yn cael eu ffitio i gymysgedd o donau Handel. Roedd y perfformiad yn cynnwys pobl gyda phrofiadau celfyddydol amrywiol – yn ymestyn o’r rhai nad oedd erioed wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol cyn hynny i berfformwyr proffesiynol newydd gymhwyso.

Sylw Cyfranogwr:
Cyfle rhyfeddol i gymryd rhan yn rhywbeth na fuaswn i beth wedi gallu ei wneud fel arall. Roedd gweld y byd opera mewn golau newydd yn brofiad bythgofiadwy.

Cliciwch yma am lluniau.