Yr Utgorn Olaf

Drama Gymunedol

Roedd “Yr Utgorn Olaf / The Last Post” yn ddrama gymunedol yn coffau’r Rhyfel Byd Cyntaf a lwyfannwyd gan Celf ar y Blaen ym mis Hydref 2017. Roedd y perfformiad hwn yn cynnwys dros 150 o berfformwyr cymunedol a theithiodd i bedwar lleoliad ar draws ardal Cymoedd De Ddwyrain Cymru.

Roedd Yr Utgorn Olaf yn benllanw dros dair blynedd o weithio pan gyflwynodd Celf ar y Blaen gyfres o brosiectau celf a threftadaeth sy’n annog aelodau cymunedol i gofio’r rhai y gwnaeth y Rhyfel Byd Gyntaf effeithio ar eu bywydau. Cymerodd dros 500 o bobl ran yn yr ymchwil greadigol yma, proses a ddangosodd effaith pell-gyrhaeddol y gwrthdaro a’i arwyddocâd mewn cymdeithas ganrif yn ddiweddarach.

Yn y rhaglen waith bu ein partneriaid yn y sector treftadaeth: Amgueddfa Cymru, Archifau Gwent ac Archifau Morgannwg, yn gweithio gydag artistiaid proffesiynol i sicrhau fod y celfwaith a gynhyrchwyd ei seilio ar wybodaeth hanesyddol. Gwnaed y prosiectau hyn yn bosibl drwy gefnogaeth cyllid Loteri o’r Gronfa Loteri Treftadaeth a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Cafodd y sgript, cerddoriaeth, coreograffeg a’r ffilm a ddangoswyd yn Yr Utgorn Olaf eu creu’n llwyr gan y rhai a gymerodd ran gyda chefnogaeth tîm artistig gwych, gan wneud y darn yn wirioneddol yn ddrama gymunedol. Fe wnaethom benderfyno llunio’r cynhyrchiad mewn ffordd sy’n galluogi cynifer ag sydd modd o bobl i gymryd rhan. Arweiniodd hyn at i ni gasglu “cast craidd” a ymddangosodd ym mhob sioe gyda pherfformiadau gan grwpiau yn dod o’r ardaloedd lleol, gan wneud pob un o’r perfformiadau yn unigryw.

Roedd y canlyniad yn gyflwyniad teimladwy ac yn ysgogi’r meddwl am fywyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fydd yn ysbrydoli eraill i feddwl am eu cysylltiad i’r amser tyngedfennol hwn yn ein hanes.

 

  • OLYMPUS DIGITAL CAMERA
    BMI Act Majority
    OLYMPUS DIGITAL CAMERA

View more photos →