Sesiynau Wythnosol

Cafodd ein rhaglen arferol o weithgareddau ei gohirio oherwydd pandemig Covid-19. Fodd bynnag, gobeithiwn y byddwch yn medru mwynhau ein rhaglen newydd y gallwn ei chyflwyno o bell yn ystod y cyfnod hwn.

I gael manylion sut i gymryd rhan, anfonwch neges atom drwy’r cyfryngau cymdeithasol neu e-bost info@head4arts.org.uk.

Amserlen Gweithgareddu Ar-lein

  • Caffe Celtaidd, grŵp cerddoriaeth rhyng-genhedlaeth, dyddiau Mercher 4.30 – 6pm
  • Sesiwn Ganu gyda Ali Shone, dyddiau Iau 12.30 – 1.45pm

Sesiwn Ganu gyda Ali Shone

Yn gwreiddiol sesiwn côr ond nawr yn cael ei gynnal ar Zoom oherwydd y pandemig, ymuno gyda ni bob prynhawn Iau ar gyfer ein sesiynau canu gyda’n gilydd gyda cerddor wedi’i hyfforddi yn glasurol Ali Shone. Cael hwyl yn canu amrywiaeth o ganeuon poblogaidd gan ABBA i ‘You’ll Never Walk Alone’, a sgwrsio i a cwrdd gyda pobl newydd yn y sesiwn ymlaciol yma. 

Rydym yn addo i gwrdd fynny eto a chanu mewn person unwaith mae’r côr medru gwneud. 

Caffe Celtaidd

Cyn y pandemig, roedd grŵp cerddoriaeth Celtic Café yn sesiwn poblogaidd, yn cwrdd yn wythnosol ym Merthyr i chwarae cerddoriaeth Gwerin traddodiadol gyda’i gilydd. Nawr yn cael ei gynnal dros Zoom, mae’r grŵp dal yn chwarae gyda’i gilydd bob wythnos, gyda taflenni cerddoriaeth a rhestr caneuon yn cael ei rhannu trwy dudalen Facebook cyn y sesiwn.   

Mae hanner awr cyntaf o bob sesiwn yn cael ei clustnodi i blant, pobl ifanc a ddechreuwyr gyda cerddor Donald Stewart yn dysgu alawon traddodiadol gwerin i’r gerddorion.

Rydym yn addo i gwrdd fynny eto a chanu mewn person unwaith mae’r côr medru gwneud.

Cais am grŵp Facebook yma. 

Spread the love