Shedvox

Gorffennaf 2015

Ym mis Gorffennaf 2015 bu Celf ar y Blaen yn cydweithio gyda’r tîm yn The Incidental i gyflwyno ShedVox yn Tai Fest, diwrnod hwyl blynyddol Tai Calon ar gyfer eu tenantiaid.

Beth yw ShedVox?

O’r tu allan, mae ShedVox yn sied gardd gyffredin ond pan mae ymwelwyr yn camu mewn ânt i fewn i osodiad sain rhyngweithiol sy’n recordio eu lleisiau a’i drawsnewid yn drac cerddorol.

Bu dros 100 o bobl yn canu, gweiddi, sibrwd a chlapio i ficroffon ShedVox yn Tai Fest a gallu clywed y seiniau hyn wedi’u hailgymysgu ar unwaith yn ddarn o gerddoriaeth. Fe wnaeth hyd yn oed rai arwyr enwog ymweld â ni oedd eisiau rhoi cynnig ar ShedVox.

Defnyddiwyd y gweithgaredd cyfranogol hwyliog yma i godi ymwybyddiaeth o brosiect Arts & Minds a ariannir gan Arts Council Wales fel rhan o raglen Creu Cymunedau Cyfoes. Cynlluniwyd y prosiect tair blynedd i sefydlu’r celfyddydau a chreadigrwydd mewn prosesau adfywio a dylunio. Cyflwynir Arts & Minds ar draws Blaenau Gwent gan bartneriaeth flaengar rhwng Tai Calon, Celf ar y Blaen ac Aneurin Leisure.

Bydd mwy o fanylion ar y prosiect cyffrous yma ar gael yn y dyfodol agos – cadwch lygad ar y wefan i gael mwy o wybodaeth.

Spread the love