ShipShape
Bu Kate yn gweithio gyda rheolwyr diwylliannol eraill o bob rhan o Ewrop drwy’r rhaglen Tandem Ewrop i ymchwilio datrysiadau creadigol a chydweithiol ar gyfer heriau cyfoes. Gyda’i phartner Tandem, Gabriele Sutera o Brosiect Hawila yn Copenhagen, datblygwyd prototeip ar gyfer gweithdy rhyngweithiol newydd am effaith amgylcheddol cludo nwyddau ar long (ShipShape) ac mae’n cael ei brofi ar hyn o bryd gyda phartneriaid. Bu’r adborth hyd yma yn gadarnhaol iawn ac edrychwn ymlaen at ymestyn hyn i ysgolion a grwpiau ieuenctid yn yr ychydig fisoedd nesaf.
Mae Tandem Ewrop yn gynllun a ddatblygwyd gan Sefydliad Diwylliannol Ewrop (Amsterdam) a MitOst e.V. (Berlin) ynghyd â Fondazione Cariplo (Yr Eidal). Mae’n derbyn cefnogaeth ariannol gan Robert Bosch Stiftung (yr Almaen) a Sefydliad Stavros Niarchos Foundation (Gwlad Groeg).

