Swyddog Prosiect yn cwblhau Rhaglen Arwain Dysgu yr NCLF
Rydym yn falch i ddweud fod Bethan Lewis, Swyddog Prosiect Celf ar y Blaen, wedi cwblhau Rhaglen Arwain Dysgu Fforwm Cenedlaethol Hamdden a Diwylliant (NCLF) yn ddiweddar, rhaglen datblygu arweinyddiaeth bwrpasol ar gyfer anghenion y sector hamdden a diwylliant.
Derbyniodd Bethan gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru i’w galluogi i fynychu’r rhaglen genedlaethol hon sy’n anelu i helpu rheolwyr diwylliannol i gyflawni eu potensial llawn. Mae cymryd rhan yn y rhaglen wedi cynnwys mynychu gweithdai preswyl, cymryd rhan mewn setiau dysgu gweithredol a gweithio gyda mentor i ddynodi nodau datblygu personol.
Disgrifiodd Bethan fanteision y cwrs gan ddweud “mae cymryd rhan yn y rhaglen wedi fy helpu i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol. Gobeithiaf y bydd hyn yn ei dro yn cael effaith gadarnhaol ar waith Celf ar y Blaen ac efallai ar y sector celfyddydau yn ehangach yng Nghymru”
Mae mwy o wybodaeth am Raglen Arwain Dysgu yr NCLF ar gael ar y wefan http://www.ncfleadinglearning.co.uk/ncf.html

