Sylw i brosiect Celf ar y Blaen ar Ganmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn San Steffan

Tîm Celf ar y Blaen yn cwrdd ag Aelodau Seneddol mewn digwyddiad yn Nhŷ'r Cyffredin i ddathlu prosiectau cymunedol yn nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf

 

Ddydd Mercher 31 Hydref bu Celf ar y Blaen yn bresennol mewn digwyddiad yn Nhŷ’r Cyffredin a noddwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn dathlu cyfraniad cymunedau ar draws y Deyrnas Unedig i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Roedd Celf ar y Blaen yn un o 12 sefydliad a wahoddwyd i fynychu’r digwyddiad allan o dros 2000 o rai a dderbyniodd Gyllid Loteri’r Treftadaeth dros gyfnod coffau’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn y digwyddiad rhoddodd Celf ar y Blaen sylw i brosiect Pwy Ydw i’n Meddwl Oeddwn I a gyflwynwyd ar draws cymoedd De Ddwyrain Cymru yn 2016. Gan weithio mewn partneriaeth gydag Archifdai Gwent a Morgannwg, fe wnaeth y prosiect alluogi grwpiau cymunedol o bob oed a chefndir i weld deunydd adnoddau sylfaenol wnaeth eu helpu i ddychmygu sut beth y gallai eu bywyd fod wedi bod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i Celf ar y Blaen drafod cynlluniau ar gyfer Arddangosfa mewn Blwch, y prosiect olaf yn eu cyfres o ddigwyddiadau yn gysylltiedig gyda chanmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae Arddangosfa mewn Blwch yn brosiect celfyddydau a threftadaeth fydd yn ymchwilio thema distawrwydd, a derbyniodd gyllid yn ddiweddar drwy gronfa Rhyfel Byd Cyntaf: bryd hynny a nawr Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Cyflwynir y prosiect ar draws fwrdeistrefi Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful a Thorfaen ddechrau 2019.

Gyda Jeremy Wright AS, yr Ysgrifennydd Diwylliant yn bresennol, ymunodd Celf ar y Blaen â phrosiectau eraill a gyllidwyd gan y Loteri Genedlaethol yn rhoi sylw i’w prosiectau Rhyfel Byd Cyntaf.

Dywedodd Ros Kerslake, Prif Swyddog Gweithredol Cronfa Dreftadaeth y Loteri: “Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn wrthdaro gwirioneddol fyd-eang, yn ymestyn ar draws moroedd a chyfandiroedd. Ond roedd ei heffaith adref yn enfawr. Cafodd cymunedau, teuluoedd a chymdeithas eu newid am byth gan y rhyfel. Mae cyllid y Loteri Genedlaethol wedi grymuso pobl i ddarganfod a rhannu’r miloedd o straeon y Rhyfel Byd Cyntaf sy’n bwysig iddynt. A bu’r ymateb gan gymunedau yn ysbrydoliaeth.”

Yn 2012, lansiodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri raglen grantiau cymunedol dan y teitl Y Rhyfel Byd Cyntaf: bryd hynny a nawr, yn cynnig grantiau rhwng £3,000 a £10,000. Dros y canmlwyddiant, dyfarnodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri fwy na £14 miliwn i brosiectau cymunedol.

Yn ychwanegol, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi dyfarnu grantiau mwy i brosiectau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae prosiectau yn cynnwys Orielau Rhyfel Byd Cyntaf yr Amgueddfa Rhyfel Ymerodrol, HMS Caroline a’r Ysgwrn, cartref y bardd Hedd Wyn. a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae cyfanswm cyllid Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng nghanmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn bron £100 miliwn.

I gael gwybodaeth ar Pwy Ydw i’n Feddwl Oeddwn I / Arddangosfa mewn Blwch, ewch i www.head4arts.org.uk neu ddilyn @Head4Arts ar Twitter a Facebook.
I gael mwy o wybodaeth ar gyllid Cronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer prosiectau Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, ewch i: www.hlf.org.uk/about-us/news-features/OneCentenary neu ddilyn#OneCentenary100Stories ar Twitter, Facebook ac Instagram

Spread the love