WWI
Mae pobl ifanc o Fwrdeistref Sirol Caerffili wedi creu cerfluniau i goffau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd y celfweithiau eu cynhyrchu yn ystod prosiect deuddeg wythnos a drefnwyd mewn partneriaeth rhwng Celf ar y Blaen a Thîm Hyb Gwasanaethau Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Cafodd y celfweithiau eu greu gan bobl ifanc o grwpiau Hyb Gorllewin Canol y Cymoedd a Basin Caerffili Parc Lansbury. Cafodd y ddau grŵp eu hysbrydoli gan ganmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf a gwnaethant benderfynu gwneud cofebion i gofio am y rhai yr oedd y gwrthdaro wedi effeithio arnynt.
Yn ystod y prosiect, dysgodd pobl ifanc fwy am y Rhyfel Byd Cyntaf drwy gymryd rhan mewn ymweliad ymchwil i’r Amgueddfa Rhyfel Ymerodrol, Llundain. Hybodd y grwpiau eu sgiliau creadigol drwy weithio gydag artistiaid proffesiynol i ymchwilio gwahanol ddulliau celf, yn cynnwys collage ac argraffu mono gyda Rhian Anderson a dweud stori a pherfformiad gyda Mike Church.
Yn dilyn cyfnod o ymchwil creadigol, bu’r bobl ifanc yn gweithio gyda’r artist arweiniol Cindy Ward i wneud a dylunio eu cerfluniau. Mae’r ddau grŵp wedi dehongli eu canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd i gynhyrchu dau ddarn unigryw o gelf coffa; gyda grŵp Parc Lansbury wedi eu hysbrydoli gan helmedau cuddliw a beintiwyd gyda llaw a grŵp Gorllewin Canol y Cymoedd yn dewis creu amlinell copr o filwr o’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Cafodd y bobl ifanc hefyd gyfle i weithio am achrediad Gwobr Celfyddydau Ymchwilio fel rhan o’r prosiect.
Lansiwyd y cerfluniau mewn digwyddiad cyflwyno yn Amgueddfa Tŷ Weindio, Tredegar Newydd lle cawsant eu harddangos drwy gydol gwyliau’r Pasg. Caiff y celfweithiau wedyn eu symud i Ganolfan Gymunedol y Fan a Chanolfan Hamdden Markham.
Dywedodd Deb Greenway, gweithwraig ieuenctid: “Mae’r bobl ifanc a gymerodd ran wedi cael cymaint o fudd o’r prosiect, maent wedi medru dysgu mwy am ran bwysig o’n hanes mewn ffordd ddiddorol a chreadigol. Mae dangos y cerfluniau yn ein hamgueddfeydd lleol wedi galluogi llawer o aelodau’r gymuned i weld y gwaith a gwerthfawrogi talentau ein pobl ifanc”.



