Y Rhyfel Byd Cyntaf: Atgofion o’r Cymoedd

Lansio Animeiddiad a Straeon Digidol

Dros yr ychydig wythnosau diwethaf buom yn dathlu llwyddiannau pobl a gymerodd ran ym mhrosiect Y Rhyfel Byd Cyntaf: Atgofion o’r Cymoedd mewn cyfres o ddigwyddiadau cymunedol.

Yn ystod y digwyddiadau hyn cafodd y straeon digidol a’r animeiddiadau a luniwyd yn ystod y prosiect eu dangos am y tro cyntaf. Bu mwy na 725 o bobl yn y digwyddiadau a gynhaliwyd yn y Pwll Mawr, Redhouse Cymru, Tŷ Windio ac Ysgol Gyfun Abertyleri.

Mae prosiect “Y Rhyfel Byd Cyntaf: Atgofion o’r Cymoedd” yn brosiect gan Celf ar y Blaen, gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol drwy Gronfa Loteri’r Dreftadaeth. Yn ystod y prosiect, gyda help gan Breaking Barriers Community Arts ac Gritty Realism Productions bu Celf ar y Blaen yn gweithio gyda 379 o bobl o bob rhan o Gymoedd De Ddwyrain Cymru i greu cyfres o ffilmiau sy’n cyfuno naratif personol a hanes llafar gyda dehongliadau cyfoes o dreftadaeth y Rhyfel Byd Cyntaf.

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran yn y prosiect ac a fu mor hael â rhannu eu straeon, sylwadau a syniadau. Arweiniodd y cyfraniadau hyn at greu casgliad craff, emosiynol a diddorol iawn o ffilmiau fydd yn helpu i gadw atgofion a threftadaeth y rhai a wnaeth fyw drwy’r rhyfel. Drwy gyflwyno treftadaeth mewn ffordd ddiddorol a hygyrch, gobeithiwn y bydd y ffilmiau yn helpu mwy o bobl i ddysgu am y cyfnod pwysig hwn o hanes.

Mae’r ffilmiau a gynhyrchwyd ar gael i’w gweld ar-lein drwy Casgliad y Werin Cymru, Pin Hanes ac ar adran “Prosiectau’r Gorffennol ar y wefan hon. Cânt eu dangos hefyd yn Eisteddfod yr Urdd yn Llancaiach Fawr a byddant yn rhan o arddangosfa yn y Tŷ Windio.

Spread the love