Yr Hyn a Wnawn – Trawsnewid Drwy’r Celfyddydau

Mae Celf ar y Blaen yn sefydliad celfyddydau cymunedol a ffurfiwyd ym mis Ebrill 2018 ac sy’n gweithredu yn ardal Cymoedd y De Ddwyrain yn cynnwys bwrdeistrefi sirol Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful a Thorfaen.

Mae Celf ar y Blaen yn aelod o Bortffolio Celf cenedlaethol Cyngor Celfyddydau Cymru a chaiff ei gefnogi gan gonsortiwm o bartneriaid: Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Hamdden Aneurin, Llesiant Merthyr ac Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen.

Gweithiwn ar draws pob dull celf gyda phobl o bob oed i ddarparu profiadau celfyddydol ansawdd uchel ac ysbrydoledig sy’n cyflwyno cyfranogwyr i ddulliau newydd o gelf ac yn datgloi eu potensial creadigol. Mae hyn yn cynnwys cyflenwi prosiectau, gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau galw heibio, sesiynau hyfforddiant, cyweithiau rhyngwladol ac, yn achlysurol, berfformiadau rhanbarthol ysblennydd.

Aiff ein gwaith â ni i ganolfannau cymunedol, stadau tai, ysgolion, parciau lleol, safleoedd treftadaeth, canolfannau ieuenctid, theatrau, llyfrgelloedd, cartrefi preswyl – mewn gwirionedd unrhyw leoliad lle cawn gyfle i gysylltu gyda phobl ac annog cyfranogiad yn y celfyddydau creadigol.

Rydym yn credu yng ngallu trawsnewidiol y celfyddydau a’u gallu i ysgogi newid cadarnhaol mewn cymunedau lleol. Gweithiwn gyda sefydliadau partner mewn amrywiaeth o sectorau, megis datblygu cymunedol, gwasanaethau ieuenctid, cyfiawnder troseddol a’r sector iechyd, gan ddefnyddio’r celfyddydau i gyflawni amrywiaeth o ganlyniadau cymdeithasol. Cliciwch yma i ddarllen mwy am effaith ein gwaith.

Mae Celf ar y Blaen yn comisiynu ymarferwyr creadigol llawrydd i gyflwyno ei raglen amrywiol o waith. Mae hyn yn galluogi Celf ar y Blaen i gynnig profiadau cofiadwy ym mhob dull celf, gan ddod â chefnogaeth gan weithwyr proffesiynol arloesol a chreadigol sy’n arbenigwyr yn y maes.

Spread the love