Mae cyfran fawr o’n gwaith mewn ysgolion yn ymwneud â llunio a chyflwyno prosiectau celfyddydol pwrpasol i roi datrysiadau creadigol i heriau penodol.
Mae gennym hefyd gasgliad o brosiectau a gafodd eu profi mewn ysgolion sy’n “barod i fynd” ac y gellir eu rhoi ar waith unrhyw amser.
Gellir cyflwyno’r holl weithgareddau islaw yn Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog.
Shipshape
Profiad rhyngweithiol i godi ymwybyddiaeth o effaith amgylcheddol cludo nwyddau i bedwar ban byd ar y môr, yn hanesyddol ac yn bresennol. Mae’r gweithdy’n seiliedig ar “gêm” lle mae dau dîm yn dechrau ar deithiau gwahanol yn cynnwys cyfuniad o weithgareddau corfforol, arbrofion a realiti estynedig. Ar hyd y ffordd maent yn dod ar draws cyfuniad o heriau, gyda phob un ohonynt angen ymateb gwahanol, megis sgiliau mordwyo, chwarae rôl, datrys problemau, gwaith tîm a gwneud penderfyniadau. Yn olaf, maent yn cymharu teithiau ac yn ystyried sut y gallai “llong y dyfodol” edrych.
Cost £300 am ddiwrnod llawn (yn cynnal y gweithgaredd ddwywaith gyda gwahanol ddosbarthiadau). Yn cynnwys pecyn addysg gyda syniadau dilynol.
Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2/3.
Twletteratura
Mae TwLetteratura yn ddull darllen sy’n ennyn diddordeb dwfn pobl ifanc mewn llyfrau. Mae’n cyfuno sgiliau darllen traddodiadol gyda gemau, ysgrifennu creadigol a rhwydweithiau cymdeithasol drwy Betwyll, ap am ddim a gynlluniwyd yn arbennig ac sy’n creu gofod diogel i bobl ifanc gymryd rhan.
Mae’r prosiect ar gael yn ddwyieithog ac mae’n canolbwyntio ar ddarllen llyfr Dan Anthony “Sombis Rygbi” / “Rugby Zombies”.
Dywedodd athro o Ysgol Cwm Gwyddon:
“Roedd y plant wrth eu bodd. Modern ac effeithlon. Erbyn y diwedd roedden nhw mor gyfarwydd â Betwyll fel y gallent ysgrifennu barddoniaeth neu rapiau heb feddwl ddwywaith”.
(Disgyblion Ysgol Penallta): “Mae fel cael stori gyda chi”, “Heb feddwl erioed y byddwn yn darllen yn hyderus”.
Gellir hefyd ddefnyddio’r prosiect i gefnogi dysgu Cymraeg.
Mae’r pecyn yn cynnwys sesiwn hyfforddi ar gyfer athrawon, mynediad i’r testun drwy ap Betwyll, awgrym am amserlen darllen ac ymweliad gan yr awdur.
Cost £300
Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2/3.
Gemelan Diwydiannol
Cerddorfa “metel trwm” o offerynnau taro a wnaed o eitemau wedi’u hailgylchu yn adlewyrchu ein gorffennol diwydiannol fel sbaneri, cledrau rheilffordd, silindrau nwy a phrennau troed. Yn seiliedig ar Gamelan traddodiadol o Java mae’r adnodd yn dathlu treftadaeth leol a chafodd sylw mewn nifer o ddigwyddiadau pwysig yn cynnwys dathliadau Olympiad Diwylliannol a’ Thaith Man Engine Cymru. Gellir defnyddio’r gamelan diwydiannol mewn nifer o wahanol ffyrdd mewn ysgolion; dull arall o ymchwilio treftadaeth, man cychwyn i ddarganfod cerddoriaeth y byd, fel offeryn cyfansoddi ac mewn ymchwilio rhythmau cerddorol.
Mae’r Gamelan Diwydiannol yn annog gwaith tîm a chydweithredu, gan wneud yr adnodd yn neilltuol o addas ar gyfer prosiectau pontio.
Mae’r offerynnau ar gael ar gyfer sesiynau preswyl o 3 diwrnod neu fwy, dan arweiniad hwylusydd cerdd a gall gynnwys hyfforddiant ar gyfer addysgu staff i gyflwyno’r sesiynau eu hunain.
Cost: o £500
Addas ar gyfer pob grŵp oedran
Arddangosfa mewn Blwch
Mae Arddangosfa mewn Blwch yn cysylltu pobl gyda phrofiad go iawn o’r Rhyfel Byd Cyntaf drwy lens ‘distawrwydd’. Ysbrydolwch eich dysgwyr drwy gyffro derbyn blwch arbennig, o’i agor i ddatgelu arteffactau go iawn, rhai ohonynt dros 100 mlwydd oed.
Mae trafod yr gwrthrychau hyn yn ein helpu i ddeall bywydau cenhedlaeth flaenorol – a sut mae eu profiadau yn berthnasol heddiw. Mae 18 blwch ar gael, pob un gyda thema unigol a phecyn addysg pwrpasol.
Dewiswch fenthyca pob un o’r 18 blwch neu ddetholiad llai – gellir benthyca’r blychau am ddim (gall fod costau dosbarthu).
Yn lle hynny, gallwn ddarparu artist i helpu disgyblion i ddehongli’r hanes y maent yn ei brofi drwy’r celfyddydau mynegiannol.
Cost: £300 am ddiwrnod llawn (gall fod yn fwy nag un dosbarth)
Addas ar gyfer CA2 ac uwch
I weld yr arddangosfa ewch i www.inspiredbyhistory.cymru
“Rydym wrth ein bodd gyda’r arddangosfa mewn blwch! Dyma’r adnodd gorau i ni erioed ei chael ac mae mor ysbrydoledig”
Dod â Llyfrau’n Fyw
Gweithdai hanner diwrnod seiliedig ar lenyddiaeth sy’n defnyddio realiti estynedig i ddod â llenyddiaeth plant boblogaidd yn fyw. Mae pob gweithdy yn cynnwys ysgrifennu creadigol a gweithgareddau celfyddydau gweledol ynghyd ag elfen ddigidol.
Y gweithdai sydd ar gael ar hyn o bryd:
- Harry Potter – Bwrw hud i ddihuno oriel Hogwart
- His Dark Materials – Datgelu eich Daemon
- The Lonely Bwbach – Creu eich llun eich hun o fwthyn Bwbach ac yna weld beth sydd tu mewn!
Cost: £300 am ddiwrnod llawn (gall fod yn fwy nag un dosbarth)
Addas ar gyfer CA2
Mae sesiynau hyfforddi athrawon ar ddefnyddio realiti estynedig hefyd ar gael – cysylltwch â ni i drafod eich gofynion.
Arty Parky
Cyfle i’r holl ysgol gymryd rhan mewn creu darlun tir enfawr ar dir eich ysgol yn defnyddio deunyddiau naturiol fel dail, blodau, brigau a chloriau hadau a gasglwyd yn lleol. Tynnir llun o’r celfwaith terfynol i greu delwedd hyfryd i’ch ysgol ei gadw. Cafodd y gweithgaredd sylw ar raglen Off the Beaten Track BBC Cymru gyda Kate Humble ac mae’n annog gwaith tîm a hyrwyddo llesiant.
Cost: £500 am ddiwrnod llawn
Cysylltu â ni
Os hoffech gysylltu â sefydliad diwylliannol / cyflwyno artistiaid proffesiynol yn eich ysgol ond dim yn siŵr sut i wneud hynny – cysylltwch â ni!
Rydym bob amser yn barod i addasu ein prosiectau neu ddatblygu rhaglen bwrpasol sy’n diwallu anghenion eich ysgol. Gallwn hefyd gyflwyno rhaglenni estynedig o waith a all gynnwys cymwysterau Arts Award ar bob lefel drwy drefniant.
